Ehangu cynllun i blant fwyta'n iach
- Cyhoeddwyd

Mae cynllun maeth yn cael ei gyflwyno yng Ngwynedd ac Ynys Môn i annog rhieni i ddewis llysiau ffres a diodydd sydd ddim yn niweidio'r dannedd.
Mae cynllun Boliau Bach, sydd ar gyfer plant oed meithrin, yn helpu i addasu bwydlenni i fodloni canllawiau bwyd a diod iachus.
Mae Ysgol Feithrin Pencarnisiog, ger Rhosneigr ar Ynys Môn, a Chylch Meithrin Dolgellau, wedi derbyn tystysgrifau am yr ymarfer gorau.
Nawr maen nhw'n annog grwpiau tebyg i ddilyn y fenter.
Cyflwynwyd y cynllun am y tro cyntaf yn Hydref 2015, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.