'Cynllun iechyd arloesol' yn dechrau yn Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd

Mae gwasanaeth iechyd newydd yn dechrau yn Sir Ddinbych ddydd Gwener wedi i dair meddygfa gau ar ôl problemau recriwtio doctoriaid.
Mae'r bwrdd iechyd wedi recriwtio ei ddoctoriaid ei hun i redeg dwy gyn-feddygfa ym Mhrestatyn a safleoedd eraill yng Ngallt Melyd a Ffynnongroyw.
Rhwng meddygfa Grŵp Meddygol Pendyffryn a meddygfa Seabank Drive mae cyfanswm o dros 20,000 o gleifion, ac fe fyddan nhw'n uno o dan y cynllun newydd.
Bydd Prestatyn Iach yn gweithio gyda gwasanaeth tebyg yn Rhuddlan, ble mae cytundeb meddygfa arall wedi dod i ben.
Fe wnaeth gynghorwyr Sir Ddinbych gytuno i gynnig un o gyn-adeiladau'r awdurdod, Tŷ Nant, i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar brydles er mwyn cynnig y gwasanaethau oddi yno.
Yn yr adeilad newydd fe fydd casgliad o staff gan gynnwys meddygon, nyrsys a therapyddion i gyd yn cynnig eu gwasanaeth o dan yr un to.
Arweinydd Prestatyn Iach fydd Dr Chris Stockport, sydd hefyd yn gyfarwyddwr meddygol rhanbarth canolog y bwrdd iechyd.
"Mae hwn yn fodel arloesol ar gyfer gofal cychwynnol i Gymru gyfan o safbwynt maint y cynllun," meddai.
"Er bod elfennau o'r model wedi eu defnyddio o'r blaen, mae cael 23,000 o gleifion o dan un gwasanaeth yn rhywbeth newydd a chyffrous."