Y band o Fôn, Cordia yn fuddugol yn yr Ŵyl Ban Geltaidd
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Facebook / Cordia
Cordia yn dathlu gyda'r wobr yn Carlow
Ar ôl ennill Cân i Gymru fis diwetha', mae'r grŵp o Fôn, Cordia, wedi ailadrodd y gamp yn yr Ŵyl Ban Geltaidd.
Y band ifanc ddaeth i'r brig yng nghystadleuaeth y Gân Ryngwladol Orau gyda 'Dim Ond Un' yn yr ŵyl yn Carlow, Iwerddon, nos Iau.
Dywedodd y grŵp ar eu tudalen Facebook: "Mi roedd ennill Cân i Gymru yn anhygoel, ond i ennill yn yr Ŵyl Ban Geltaidd, waw!
"'Da ni'n falch o ddod a'r wobr yn ôl i Gymru!"
Dywedodd Ffion Elin sy'n aelod o'r band mai thema'r gân yw salwch meddwl.
"Neges y gân yw bod bob amser rhywun yno sy'n medru helpu a 'da chi ddim ar eich pen eich hunain," meddai.
Ynghyd â thlws Cân i Gymru, roedd gwobr ariannol o £5,000
Straeon perthnasol
- 6 Mawrth 2016