Colofn Jo Blog
- Cyhoeddwyd

Mae sgwter Jo Blog wedi cael ei arafu, a'r Ffermwyr Ifanc sydd ar fai.
"Choc-a-bloc"
Ar eich marciau. Barod? Ewch! Ewch! Go on... ewch! Maen nhw yn symud - onest - ond mae hi fel malwod yn rasio crwbanod!
Ac am be dwi'n pregethu'r tro yma meddech chi?
Wel am Vintej Tractor Run / Ras Hen Dractors Clwb Ffermwyr Ifanc Pen Parc siŵr iawn. Wnewch chi byth gwyno mod i'n dal traffig yn ôl efo fy mobiliti sgwter ar ôl dilyn rhain am wythnos. Fydd Cymru gyfan yn choc-a-bloc cyn pen dim.
OK - mae'n iawn - heblaw am y broblem amlwg o ddefnyddio'r gair 'ras' yn yr un frawddeg a 'hen dractors'. Wedi'r cyfan maen nhw'n codi arian at yr Ambiwlans Awyr (yn ogystal â'r Clwb wrth gwrs). OND maen nhw'n bwriadu 'rasio'r' hen dractors 'ma bob cam o Abergwaun i Ynys Môn - ar hyd yr A487.
Stynt PR
Ar hyd y ffordd. Yn eno'r dyn maen nhw mewn tractors - allen nhw fynd dros y caeau. Ond na! Beth am fynd ar hyd un o ffyrdd prysuraf a mwyaf troellog Cymru a hynny dros wyliau'r Pasg! Ac nid ar un hen dractor ond ar res ohonyn nhw. Nid un, y byddai modd hyd yn oed i mi, ar y sgwter, oddiweddyd yn slei wrth fynd i lawr rhiw â'r gwynt wrth fy nghefn. Ond rhes ohonyn nhw. Rhes fydd yn dal ceir yn ôl am filltiroedd. Dyna stynt PR gwych i'r ddwy elusen...
Erbyn iddyn nhw gyrraedd Ynys Môn fe fydd cynffon y ciw yn Crymych. A waeth pa mor hen fydd y tractorau mae'n siŵr y bydd yna furry dice a stereo system enfawr ar bob un yn blerio rhaglenni Ifan Jones Evans ar y traffic. A thrwy'r cyfan fe fydd Geraint Lloyd yn rhoi sylwebaeth fyw - rhyw fath o ralïo ar Mogadon...
"Mae'r Ffyrgi Fach wedi bod wrth gynffon y David Brown ers 122 o filltiroedd ac wedi bod yn codi sbid ers awr a chwarter yn barod i fynd amdani'r tro nesa' y bydd yna stretch syth o ryw saith neu wyth milltir... mae'r cyffro'n farwol... jyst digon o amser i ffito un o raglenni teirawr Ifan i mewn... drosodd atat ti Ifan... beth am un o ganeuon mwyaf poblogaidd Bryn Fôn - co' chi 'Tecwyn y Tractor Bach Coch.'
O leiaf roedd Geraint Lloyd yn fecanic mewn bywyd arall - allai hynny fod o ryw iws iddyn nhw...
Yn eu helfen
Ond y gwir ydy fe fydd yr 'Young Farmers' yn eu helfen. Maen nhw wrth eu boddau yn dal traffig yn ôl. Dwi'n siŵr eich bod chi, fel fi, wedi dilyn un am filltiroedd ac yn llwyddo yn y diwedd i'w basio, ac wrth fynd heibio yn gweld yr hen wên fach slei yna'n pontio o sideburn i sideburn. A rŵan fyddan nhw'n cael eu talu i wneud. A waeth i chi heb â chysuro'ch hun mai dim ond i'r cae nesa' maen nhw'n mynd - fydd rhain yn mynd 161 o filltiroedd. Fydda hi ddim yn haws iddyn nhw gymryd y fferi o Abergwaun i Gaergybi dywedwch?
Ond waeth heb â beirniadu'r Ffermwyr Ifanc... maen nhw uwchlaw pob beirniadaeth. Fyddan nhw ar Taro'r Post cyn i mi droi yn cwyno nad oes neb yn deall Traddodiadau Cefn Gwlad, hebddyn nhw fyddai gan y ffyrdd yma ddim caeau i redeg drwyddyn nhw ac mae hi'n galed, Duw mae'n galed. (Siŵr bod yna sgets yn fana yn rhywle.) Ac wrth gwrs fydd Gwilym Owen allan yn eu hamddiffyn nhw. Fyddai'r Urdd byth yn tefnu peth mor wych â hyn. Plant Sanhedrin y Sefydliad Dosbarth Canol yn baeddu eu dwylo ar dractor - sgersli bilif.
Felly os gwelwch chi fi ar fy sgwter yn cael fy tailgetio gan Masi Ffyrgi 35x sy'n bygwth fy ngwthio fi dros Bont y Borth i'r môr - fe wnewch chi fy achub i yn gwnewch?
Bydd Jo Blog yn ei ôl ar wefan Cymru Fyw pan fydd rhywun neu rywbeth wedi codi ei wrychyn.
Fe hoffai aelodau tîm Cymru Fyw dynnu eich sylw at y ffaith nad ydym ni erioed wedi gweld Jo Blog yn ein swyddfeydd, felly rydym ni yn cymryd mai cymeriad dychmygol ydy o!