Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gwneud elw
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru gynyddu eu hincwm a gwneud elw yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
Mae cyfrifon ar gyfer y flwyddyn hyd at Fehefin 2015 yn dangos fod trosiant y corff llywodraethu pêl-droed wedi codi o £1.6m, 18.4% yn uwch na'r flwyddyn flaenorol.
Fe ddywedon nhw mai'r rheswm am y cynnydd yw bod UEFA wedi gwerthu hawliau teledu ar gyfer gemau rhagbrofol yn ganolog.
Cyn treth, fe wnaeth y Gymdeithas elw o £20,000, o'i gymharu â cholled o £29,000 flwyddyn ynghynt.
Fe ddywedon nhw mai eu strategaeth o ddefnyddio'u hincwm i helpu i ariannu pob math o bêl-droed domestig a rhyngwladol yng Nghymru oedd yn gyfrifol am yr elw bychan.
Bydd tîm dynion Cymru'n mynd i bencampwriaeth Euro 2016 yn Ffrainc yn ystod yr haf.
Dyma'r tro cyntaf i Gymru gyrraedd un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol ers Cwpan y Byd 1958.