Prosiectau gwerth £2m i wella ffyrdd Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Ffordd GlasfrynFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Bydd Ffordd Glasfryn yn Nhyddewi'n cael ei lledu fel rhan o fuddsoddiad gwerth £780,000

Mae cyfres o brosiectau gwerth £2m i wella ffyrdd wedi cael eu cyhoeddi gan Gyngor Sir Penfro.

Gwelliannau i Ffordd Glasfryn yn Nhyddewi sy'n derbyn y buddsoddiad mwyaf, sef £780,000.

Dros y 12 mis nesaf, bydd y ffordd yn cael ei lledu a bydd cylchfan yn cael ei adeiladu ble mae'r ffordd y cwrdd â'r A487.

Ymysg y prosiectau eraill mae gwelliannau i lwybrau beicio yn Aberdaugleddau, mentrau i hybu ymwybyddiaeth am ddiogelwch ffordd, a phrosiect i ddatblygu cynlluniau manwl ar gyfer ffordd newydd yn Abergwaun.

Llywodraeth Cymru sy'n ariannu'r prosiectau drwy'r Gronfa Trafnidiaeth Leol, Grant Diogelwch ar y Ffordd a menter Llwybrau Diogel yn y Gymuned.