Cwpl wnaeth dyfu canabis i dalu £55,000
- Cyhoeddwyd

Mae gŵr a gwraig wnaeth dyfu gwerth miloedd o bunnau o ganabis yn eu gwesty gwely a brecwast wedi cael gorchymyn llys i dalu dros £55,000.
Cafodd Susan McKay, 58 o Landyrnog yn Sir Ddinbych, a'i gŵr Owen McKay, 73, ddedfrydau gohiriedig o garchar fis Mai y llynedd.
Yn sgil gwrandawiad ariannol yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Gwener, bydd rhaid i Susan McKay dalu £33,500 o fewn tri mis neu bydd yn wynebu naw mis dan glo.
Bydd rhaid i'w gŵr dalu £22,000 o fewn yr un cyfnod neu bydd yntau'n cael ei garcharu.
Fe gafodd eu mab, Michael McKay, 27 o Gaer, orchymyn i dalu £2,000 neu bydd yn treulio dau fis yn y carchar.
£500,000 mewn asedau
Cafodd y symiau o arian y bydd rhaid i'r cwpl eu talu eu pennu ar sail gwerth eu hasedau, sy'n dod i gyfanswm o bron i £500,000.
O'r rhain, mae £264,800 yn enw Susan McKay a £230,500 yn enw Owen McKay neu ar y cyd.
Yn yr achos y llynedd, clywodd y llys bod Susan McKay, gyda chymorth ei mab Michael, wedi tyfu 115 planhigyn canabis yng nghartref y teulu yn Llandyrnog.
Roedd gan y planhigion werth o hyd at £96,000, ond chawson nhw 'mo'u gwerthu.
Plediodd Susan a Michael McKay yn euog i gynllwynio i ddelio canabis a chael dedfrydau o 20 mis o garchar, wedi'i ohirio am 18 mis.
Fe blediodd Owen McKay yn euog ar y sail ei fod yn ymwybodol o'r cynllwyn, er na fyddai'n elwa'n ariannol ohono. Cafodd ddedfryd o bum mis o garchar, wedi'i ohirio am 12 mis.
Clywodd y llys bryd hynny am broblemau ariannol a thrafferthion teuluol oedd yn gymhelliad i Susan McKay dyfu canabis.