Carchar i ddyn o Ddolgellau am ddilyn merched
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o Ddolgellau wedi cael dwy flynedd o garchar am dorri gorchymyn atal troseddau rhyw drwy ddychryn merched ar strydoedd y dref.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod dwy ddynes wedi penderfynu rhedeg i ffwrdd a chuddio yn sgil ymddygiad Michael Williams, 28 oed, ar nosweithiau 13-14 Chwefror eleni.
Roedd wedi derbyn gorchymyn atal troseddau rhyw am gyfnod amhenodol, ond clywodd y llys ei fod wedi ei dorri pedair gwaith cyn y digwyddiadau.
Cuddio
Dywedodd yr erlynydd Michael Whitty fod yr heddlu wedi derbyn cwynion am ymddygiad Williams y noson honno.
Ar un achlysur, meddai Mr Whitty, fe wnaeth Williams ddilyn dynes drwy gerdded tu cefn iddi, cyn ei phasio a throi 'nôl i syllu arni.
Pan benderfynodd y ddynes droi 'nôl a mynd i gyfeiriad arall, fe aeth Williams ar ei hôl hi o'r newydd tan iddi gyfarfod ffrind.
Ar achlysur arall, yn ôl yr erlynydd, fe benderfynodd dwy ddynes redeg i ffwrdd a chuddio tu cefn i siop Spar am eu bod yn dan yr argraff ei fod yn eu dilyn.
Mae lluniau o gamera CCTV y siop yn dangos Williams yn gwneud sylw sarhaus am y ddwy.
Clywodd y llys fod Williams wedi cael dedfryd am ymddygiad tebyg yn y gorffennol.
'Effaith ddifrifol'
Ar ran yr amddiffyn, dywedodd y bargyfreithiwr Sion ap Mihangel fod gan Williams broblemau yn ei fywyd pob dydd a'i fod yn ymwybodol o hyn.
Fe glywodd y llys fod Williams yn cydnabod fod alcohol a chanabis yn gwneud iddo fynd tu hwnt i'w ymddygiad arferol.
Doedd dim cyswllt corfforol rhyngddo a'r merched gafodd eu dilyn.
Dywedodd y Barnwr Michael Burr fod yr ymddygiad wedi cael "effaith ddifrifol" ar y merched a bod Williams wedi torri amodau'r gorchymyn.
Ychwanegodd ei fod yn "cydymdeimlo" gyda phroblemau Williams, ond fod rhaid amddiffyn y cyhoedd drwy roi dedfryd o garchar.