Diffyg cyllidol Cymru o tua £15bn yn 'fwlch sylweddol'
- Cyhoeddwyd

Roedd gan Gymru, i bob pwrpas, fwlch ariannol o bron i £15bn y llynedd, yn ôl ymchwil newydd.
Dywedodd arbenigwyr bod Cymru wedi gwario £38bn ym mlwyddyn ariannol 2014/15, ond dim ond £23.4bn a godwyd mewn trethi.
Mae'r diffyg ariannol yn cynrychioli 23.9% o faint yr economi Gymreig, neu GDP, gyda'r ffigwr ar gyfer y Deyrnas Unedig yn 4.9% a'r Alban tua 9.7%.
Roedd yr awduron o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd wedi edrych ar y gwariant cyhoeddus Cymreig - gan Lywodraeth Cymru a'r Deyrnas Unedig - a faint sy'n cael ei godi drwy drethi yng Nghymru.
'Maint yr her'
Mae'r ffigyrau o adroddiad Gwariant a Refeniw Llywodraethol Cymru yn "amlinellu maint yr her" wrth i Lywodraeth Cymru baratoi at dderbyn rhagor o bwerau.
Bydd y dreth stamp a'r dreth tirlenwi yn gyfrifoldeb i Fae Caerdydd o Ebrill 2018, ond mae treth cyngor a threthi busnes eisoes wedi eu datganoli.
Er bod rheolaeth dros 10c yn y bunt o dreth incwm i'w ddilyn, does dim dyddiad ar gyfer y newid hwn.
Gyda'i gilydd, byddai'r trethi yma'n swm o tua £4bn o'r incwm blynyddol.
Dywedodd Ed Poole, darlithydd yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, ac un o awduron yr adroddiad: "Mae diffyg cyllidol Cymru o £14.7 biliwn, sef oddeutu 24% yr amcangyfrif o'r CMC, yn fwlch sylweddol rhwng y refeniw a godir yng Nghymru a gwariant cyhoeddus Cymru, ac nid oes unrhyw dystiolaeth bod y bwlch rhwng Cymru a gweddill y DU yn cael ei bontio."
Ychwanegodd: "Mae'r ffigyrau yn amlinellu maint yr her sy'n wynebu Cymru, wrth i wasanaethau cyhoeddus ddod yn fwyfwy dibynnol ar drethi o ffynonellau cartref, megis cyfraddau newydd y Dreth Incwm a Threth Stamp yng Nghymru."
Canlyniad yn 'gyffredin'
Mae Llywodraeth yr Alban yn cyhoeddi ffigyrau blynyddol am sefyllfa ariannol y wlad, gyda'r canfyddiadau yn sail i ddadleuon ynghylch a allai'r wlad fod yn annibynnol.
Does dim gwaith ymchwil o'r fath wedi ei wneud ar gyfer Cymru ers datganoli, er bod amcangyfrifon wedi eu gwneud gan Gomisiwn Silk yn 2012 a Chomisiwn Holtham yn 2009.
Mae'r awdurdod Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi erbyn hyn yn cyhoeddi ffigyrau ynghylch faint o drethi sy'n cael eu codi bob blwyddyn o rai datganoledig.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod hi'n "gyffredin i wariant cyhoeddus fod yn uwch na refeniw mewn ardaloedd lle mae anghenion uwch".
Ychwanegodd bod y ffigyrau ar gyfer Cymru yn debyg i ardaloedd eraill sydd â demograffeg ac economi tebyg.