Ymchwilio i droseddau rhyw hanesyddol yng Nghaerffili

  • Cyhoeddwyd
heddlu

Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau bod ymchwiliad wedi dechrau i honiadau o droseddau rhyw hanesyddol yn ardal Caerffili.

Maen nhw'n dweud bod dyn o'r ardal yn cynorthwyo swyddogion.

Fel rhan o'r ymchwiliad mae'r heddlu yn gwneud ymholiadau yng nghyfeiriad cartref yn ardal Pen-Y-Bryn o'r dref.

Dywedodd Ditectif Prif Arolygydd y llu, Nicky Brain, bod yr ymchwiliad yn digwydd yn dilyn "adroddiadau o droseddau rhyw hanesyddol a chelu genedigaeth".