Babi gafodd ei ddarganfod yn Afon Taf i gael ei gladdu
- Cyhoeddwyd

Cafodd y babi ei ddarganfod yn Afon Taf ar 23 Mehefin y llynedd
Mae mam babi newydd-anedig gafodd ei ddarganfod yn farw mewn afon yng Nghaerdydd wedi cael ei hannog i gysylltu gyda'r heddlu cyn i'r bachgen gael ei gladdu.
Cafodd y babi, sydd wedi cael yr enw Sion gan yr heddlu, ei dynnu o Afon Taf ar 23 Mehefin y llynedd.
Prif bryder Heddlu'r De yw nad ydi'r fam wedi cael y gefnogaeth emosiynol sydd ei angen.
Ychwanegon nhw eu bod eisiau dod o hyd i fam Sion fel y gallai "gael ei gladdu gydag enw ei deulu".