Refferendwm Ewrop: Perthynas Cymru â'r Undeb
- Cyhoeddwyd

Ar 23 Mehefin, bydd gennych chi a fi'r cyfle i barhau â pherthynas Cymru â'r Undeb Ewropeaidd neu ddirwyn ein cysylltiad â Brwsel i ben.
Er mwyn ateb cwestiwn mawr y refferendwm, bydd pobl yn gofyn sawl cwestiwn arall - pa effaith fyddai aros neu adael yn ei gael arna i, fy nheulu a'n swydd?
Does dim dwywaith bod effaith yr Undeb Ewropeaidd ar Gymru a'r DU wedi cynyddu'n aruthrol ers ymaelodi 'nôl yn 1973.
Erbyn hyn, mae'n dylanwadu ar gymaint o'n bywydau pob dydd - o fwrdd y gegin i fwrdd y cabinet.
Ar gyfartaledd, mae ffermwyr Cymru'n derbyn rhyw £240m y flwyddyn mewn taliadau CAP - neu'r Polisi Amaethyddol Cyffredin.
Ffermio
Mae fferm laeth Gelliddu y tu allan i Gaerfyrddin, fel gweddill y diwydiant, yn ddibynnol ar y taliadau.
"Er bod e'n daliad ariannol ry'n ni'n falch i weld yn dod, fydde rhan fwyaf o amaethwyr Cymru yn hapusach i wneud heb daliad CAP a chael pris mwy teg am ein cynnyrch bwyd," meddai Gareth Thomas.
Mae e a sawl ffermwr yn cefnogi aros yn rhan o'r UE.
"Y gofid o ran sefydlogrwydd yw'r gofid mwyaf," meddai.
"Fydden i ddim moen bod tu allan ac yn gorfod dibynnu ar haelondeb y llywodraeth yma i edrych ar ein hôl ni yn y farchnad agored."
Pysgotwyr
Dod o deulu o ffermwyr y mae Sion Williams, sydd fel arfer yn pysgota oddi ar arfordir Pen Llŷn.
Mae'r tywydd gwael wedi bod yn rhwystr iddo dros y gaeaf - ond yn ei farn ef, yr UE sy'n achosi'r rhwystr mwyaf i'w fywoliaeth.
Yn ôl rheolau'r Undeb, gall e ond dal hyn a hyn o bysgod, ac mae hynny, meddai, "mewn ffordd wedi gwaredu ein pysgota ni".
"O ran fi'n hun, faswn i'n licio gadael Ewrop neu weld o'n cael ei newid," meddai. "Bod 'na welliannau'n cael eu gwneud, fel bod o'n mynd yn ôl i helpu hefo marchnata a chael gwell pris i bobl am eu cynnyrch."
Ar y môr y mae Cardigan Bay Watersports hefyd yn gwneud bywoliaeth.
Aeth y cwmni o Gei Newydd i'r dŵr am y tro cyntaf nôl yn 2003 ac roedd £165,000 o arian Ewropeaidd yn allweddol yn hynny o beth.
Roedd y cwmni'n gallu cael gafael ar y cyllid oherwydd gwendid economaidd Cymru 'nôl yn 1999 o'i gymharu â gweddill yr Undeb - cronfeydd strwythurol yw'r enw swyddogol.
Cyfle "unwaith mewn cenhedlaeth" oedd hwn, meddai Prif Weinidog Cymru ar y pryd, Rhodri Morgan.
Ond 17 mlynedd ers hynny ac mae rhanbarth gorllewin Cymru a'r cymoedd yn dal yn gymwys i dderbyn y lefel uchaf o gymorth.
Erbyn diwedd y degawd, bydd Cymru wedi derbyn dros £5 biliwn o'r cymorth Ewropeaidd yma.
Cymru ar ei hennill?
Ym marn y rheiny sydd am i'r DU adael yr Undeb, ein harian ni yw e yn y lle cyntaf.
Mae'r DU yn cyfrannu mwy o arian yn flynyddol i gronfa'r UE nag y mae'n ei gael yn ôl, tra bod Cymru - er bod yna amheuaeth o ran y ffigwr pendant - ar ei hennill.
Yn ôl rhai, mae'r Undeb Ewropeaidd yn gyfystyr â biwrocratiaeth neu dâp coch.
Mae amcangyfrif ei fod yn costio biliynau o bunnoedd yn flynyddol i economi'r DU ac yn effeithio ar fywyd yn y cartref.
Er enghraifft, ni ellir prynu peiriannau sugno llwch pwerus bellach, ac y mae posibilrwydd hefyd y bydd rheolau tebyg yn y dyfodol ar gyfer tegelli.
Ond, flwyddyn nesaf, ni fydd unrhyw dâl ychwanegol am ddefnyddio ffôn symudol wrth deithio i un o wledydd yr Undeb.
Ers ymaelodi dros ddeugain mlynedd yn ôl, does dim dwywaith bod effaith yr Undeb Ewropeaidd ar Gymru ac ar ein bywydau personol wedi cynyddu'n aruthrol.
Wrth reswm felly, mae penderfynu gadael neu aros yn un o'r penderfyniadau mwyaf sy'n ein hwynebu fel gwlad.