Tŵr gwylio i wylwyr môr Porthcawl

  • Cyhoeddwyd
arfordirFfynhonnell y llun, Cyngor Penybont

Fe fydd gwirfoddolwyr yn dechrau gwylio'r arfordir ger Porthcawl ar benwythnosau, ar ôl cymryd gofal o dŵr gwylio 150 mlwydd oed.

Bydd y National Coastwatch Institution (NCI) yng ngofal yr hen dŵr gwylio er mwyn helpu i leihau peryglon ar y môr.

Mae'r tŵr yn adeilad rhestredig gradd 2, ac mae wedi cael ei adnewyddu i fod yn ganolfan i'r gwirfoddolwyr.

Bydd y gwylio yn dechrau yn yr haf, gyda'r gobaith o redeg y gwasanaeth bob dydd yn y pen draw.

Mae'r NCI yn sefydliad gwirfoddol, sy'n cadw golwg ar ardaloedd arfordirol o'r DU ac yn edrych allan am alwadau brys gan rai sydd mewn trafferth ar y môr.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Penybont

Fe fydd y gwirfoddolwyr hefyd yn monitro sianeli radio, ac yn cael eu hyfforddi i ddelio ag argyfyngau.

Dywedodd Rheolwr yr Orsaf, Phillip Jones: "Rydym wedi bod yn derbyn hyfforddiant ers tipyn, rydym yn edrych ymlaen at gynnal y gwylio ar benwythnosau i ddechrau, hyd at 8:00 yn y nos, ac yn y pen draw, y gobaith ydi cynyddu'r oriau."

Mae'r hen dŵr wedi cael ffenestri, drysau a tho newydd, tra bod y grisiau allanol hefyd wedi cael eu hadnewyddu.

Mae cyngor Pen-y-bont ar Ogwr bellach wedi trosglwyddo'r tŵr i ofal yr NCI.