Pro12: Dreigiau 20-26 Gweilch
- Cyhoeddwyd

Mae'r Gweilch wedi llwyddo i gadw eu gobeithion o orffen yn y chwe safle uchaf yn y Pro12 yn fyw, wedi buddugoliaeth a phwynt bonws yn erbyn y Dreigiau.
Llwyddodd Jeff Hassler, Rhys Webb, Dan Evans a Sam Underhill i sgorio cais yr un, gyda bron hanner y gêm i fynd, ac fe lwyddodd Dan Biggar i drosi tair.
Sgoriodd Hallam Amos ddau gais gwych i'r tîm cartref, a rhoddodd sgôr gan Carl Meyer obaith hwyr i'r Dreigiau.
Ond fe lwyddodd y Gweilch i ddal eu gafael ar y fuddugoliaeth a chipio'r pwynt bonws wrth wneud hynny.