Tata: Cameron yn codi pryderon gyda Xi Jinping
- Cyhoeddwyd
Mae David Cameron wedi codi pryderon am yr argyfwng yn y diwydiant dur gydag arlywydd China, Xi Jinping, yn ôl swyddogion y Prif Weinidog.
Yn ystod digwyddiad ddydd Iau, dywedodd Mr Cameron bod angen cydweithio i fynd i'r afael a'r sefyllfa, meddai llefarydd.
Ddydd Mawrth, cyhoeddodd cwmni Tata eu bod yn bwriadu gwerthu eu busnesau dur yn y DU.
Mae'r ffaith bod China yn allforio dur yn rhad yn cael peth o'r bai am y problemau sy'n wynebu'r diwydiant dur yn y DU.
Daw'r cyfarfod wrth i China gyhoeddi tollau o hyd at 46% ar rhai mathau o ddur o'r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys un math sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru.
Dywedodd y Prif Weinidog bod y llywodraeth yn gwneud popeth sy'n bosib i geisio achub swyddi dur.
Ond rhybuddiodd Mr Cameron nad oedd unrhyw sicrwydd y byddai'n llwyddo, a dywedodd nad gwladoli'r diwydiant dur yw'r ateb i'r broblem.
Mae undebau a'r gwrthbleidiau yn San Steffan wedi dweud bod ymateb y llywodraeth wedi bod yn annigonol, ac maen nhw'n galw am weithredu.
Ddydd Gwener, fe wnaeth Ysgrifennydd Busnes y DU, Sajid Javid, ymweld â Phort Talbot am y tro cyntaf ers i Tata gyhoeddi eu bwriad i werthu'r safle.
Straeon perthnasol
- 1 Ebrill 2016
- 31 Mawrth 2016
- 31 Mawrth 2016
- 30 Mawrth 2016