Dau wedi marw wedi gwrthdrawiad ger Llandwrog, Gwynedd
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Google
Digwyddod y gwrthdrawiad ar yr A499 ger Llandwrog
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth yn dilyn marwolaeth dyn a dynes mewn gwrthdrawiad yng Ngwynedd nos Wener.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r gwrthdrawiad rhwng Nissan Micra glas a Vauxhall Vectra arian ar yr A499 ger Llandwrog am tua 20:25.
Bu farw'r dyn a dynes oedd yn teithio yn y Nissan ar safle'r digwyddiad.
Cafodd dyn oedd yn gyrru'r Vauxhall ei gludo i Ysbyty Gwynedd gydag anafiadau difrifol, ac fe gafodd dyn arall oedd yn teithio yn y car fan anafiadau.
Roedd yr A499 ar gau am gyfnod wrth i'r ymchwiliad barhau.
Mae Heddlu Gogledd Cymru am i unrhyw un welodd y digwyddiad neu sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw ar 101.