Merch wedi ei chludo i'r ysbyty mewn hofrennydd o Eryri
- Cyhoeddwyd
Roedd rhaid cludo merch yn ei harddegau i'r ysbyty mewn hofrennydd ddydd Sadwrn ar ôl iddi gael ei tharo'n wael yn Eryri.
Cafodd y ferch ei hachub oddi ar yr Wyddfa gan Dîm Achub Mynydd Llanberis a hofrennydd Gwylwyr y Glannau.
Cafodd ei chludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Nid oes mwy o fanylion am ei chyflwr ar hyn o bryd.