Pro12: Scarlets 22-28 Gleision
- Cyhoeddwyd

Llwyddodd y Gleision i wrthsefyll ymdrech hwyr gan y tîm cartref i sicrhau ail fuddugoliaeth o'r tymor dros y Scarlets yn y Pro12.
Sgoriodd Gareth Anscombe 18 pwynt, gan gynnwys cais, i'r Gleision ym Mharc y Scarlets, wrth i Lloyd Williams a Tom James groesi'r llinell hefyd.
Y Gleision oedd y tîm gorau am 70 munud o chwarae, ond fe wnaeth cais hwyr gan John Barclay a cherdyn melyn i Josh Turnbull roi'r pwysau arnyn nhw tua diwedd y gêm.
Daeth 12 pwynt o droed Dan Jones i'r Scarlets, wnaeth fethu ac ail-greu'r perfformiad welodd y tîm yn curo'r Gweilch wythnos yn gynharach.