Stoke 2-2 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Sgoriodd Gylfi Sigurdsson ac Alberto Paloschi i Abertawe wrth i'r Elyrch ddod yn ôl i gipio pwynt yn erbyn Stoke yn yr Uwch Gynghrair.
Ibrahim Afellay sgoriodd gyntaf i dîm Mark Hughes, gan benio i'r rhwyd i groesiad Marko Arnautovich yn yr hanner cyntaf.
Aeth Stoke ymhellach ar y blaen drwy Bojan Krkic yn gynnar yn yr ail hanner.
Ond daeth Abertawe yn ôl yn gryf wrth i Sigurdsson guro golwr Stoke, Jakob Haugaard, cyn i ergyd Paloschi wyro i mewn i'r rhwyd i sicrhau'r pwynt.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Abertawe bellach yn y 15fed safle yn yr Uwch Gynghrair.