Caerdydd 2-1 Derby County

  • Cyhoeddwyd
Bruno Ecuele MangaFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Bruno Ecuele Manga sgoriodd gyntaf i'r Adar Gleision

Mae Caerdydd wedi rhoi hwb i'w gobeithion o gyrraedd gemau'r ail gyfle wedi buddugoliaeth dros Derby yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Caerdydd aeth ar y blaen mewn hanner cyntaf heb lawer o gyfleoedd wrth i Bruno Ecuele Manga benio i'r rhwyd.

Daeth yr ymwelwyr yn ôl yn gryfach yn yr ail hanner wrth i Chris Martin roi'r bel yn y rhwyd yn fuan wedi'r egwyl.

Ond fe wnaeth yr Adar Gleision barhau i roi pwysau ar Derby, a daeth eu gwobr wrth i Stuart O'Keefe rwydo o gic gornel i gadw Caerdydd o fewn dau bwynt i'r chwech uchaf.

Derby eu hunain sy'n disgyn i'r chweched safle wedi'r gêm, gafodd ei gwylio gan dorf o 28,680 - y fwyaf erioed i'r tîm yn y stadiwm.