Ffrwydrad nwy: Tri wedi eu hanafu yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd

Mae tri o bobl wedi eu hanafu, un yn ddifrifol, yn dilyn ffrwydrad nwy mewn tŷ yng Nghasnewydd, sy'n cael ei drin fel digwyddiad amheus gan yr heddlu.
Digwyddodd y ffrwydrad ychydig cyn 19:30 nos Sadwrn, gan ddifrodi'r tŷ ar Stryd George ac adeiladau agos.
Mae tua 30 o ddiffoddwyr tan wedi bod yn gweithio i ddiogelu'r safle.
Dywedodd llefarydd ar ran Wales and West Utilities bod y ffrwydrad yn ymwneud a phibellau mewnol ac nid y rhwydwaith allanol.
Cafodd un person anafiadau sy'n cael eu disgrifio fel rhai "sy'n peryglu bywyd".
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent bod y digwyddiad yn cael ei drin fel un amheus, ond ychwanegodd "nad ydyn ni'n edrych am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad".