Pysgotwr ar goll: Darganfod corff dyn yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod swyddogion sy'n chwilio am bysgotwr 24 oed aeth ar goll yn Aberdaugleddau wedi darganfod corff.
Fe wnaeth capten y llong gysylltu gyda Heddlu Dyfed Powys fore Sadwrn, pan wnaeth y criw sylwi bod Josh Winsper, o Gernyw, wedi diflannu.
Nid yw'r corff wedi ei adnabod yn swyddogol eto.
Dywedodd yr heddlu bod teulu'r dyn wedi cael gwybod am y datblygiad.
Ffynhonnell y llun, Tom Arnold