Arestio dyn wedi gwrthdrawiad ger Pen-y-bont

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae gyrrwr 24 oed wedi ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad pan gafodd dau ddyn eu hanafu ger Pen-y-bont.

Cafodd gyrrwr Ford Fiesta, 81 oed, anafiadau difrifol yn y gwrthdrawiad ar yr A4064 rhwng Llangeinwyr a Brynmenyn am tua 15:00 ddydd Sadwrn.

Mae'n cael ei drin yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Roedd rhaid i ddyn arall, 75 oed, gael triniaeth am anafiadau i'w ben.

Cafodd y dyn 24 oed, oedd yn gyrru Vauxhall Astra, ei gludo i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont.

Mae wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi anafiadau difrifol drwy yrru'n beryglus.

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth.