Dur: Cyfarfod i drafod cefnogaeth i brynwyr Port Talbot
- Cyhoeddwyd

Bydd David Cameron a Carwyn Jones yn cyfarfod i drafod cefnogaeth gan Lywodraeth y DU i gwmni sy'n prynu gwaith dur Port Talbot.
Daw'r cyfarfod wrth i gwmni dur Tata barhau i edrych am brynwr ar gyfer eu busnes ym Mhrydain.
Mae sawl adroddiad o gwmniau yn dangos diddordeb yn y safle, lle mae miloedd o swyddi yn y fantol.
Yn gynharach ddydd Sul, dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes, Sajid Javid, nad oedd yn credu mai gwladoli oedd yr ateb ond ychwanegodd nad oedd am ddiystyru unrhyw beth er mwyn sicrhau cytundeb.
Mae Llafur wedi dweud y dylid ystyried gwladoli tan bod prynwr yn dod i'r amlwg.
Galw am gymorth
Bydd Mr Cameron a Mr Jones yn cyfarfod ddydd Mawrth.
Dydd Sul, fe wnaeth Mr Jones alw ar Lywodraeth Prydain i roi'r un cymorth i'r diwydiant dur a gafodd y banciau adeg yr argyfwng ariannol.
Mewn erthygl yn yr Independent dywedodd bod achos "moesol, economaidd a strategol" dros roi'r un cymorth i'r diwydiant dur.
Prynwr posib?
Un o'r rhai sydd wedi eu crybwyll fel prynwyr posib yw Sanjeev Gupta, perchennog cwmni Liberty House, sy'n dweud ei fod wedi dechrau trafodaethau gyda Tata a'i fod yn barod i drafod gyda'r llywodraeth.
Mae cwmni dur o'r Almaen, ThyssenKrupp, hefyd wedi dangos diddordeb, yn ôl yr Observer.
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi disgwyliad i'r Gwasanaeth Iechyd, Awdurdodau Lleol a chyrff cyhoeddus i ystyried defnyddio dur o Brydain cyn dechrau ar brosiectau adeiladu mawr.
Mae'r llywodraeth yn galw ar gyrff cyhoeddus i ystyried yr effaith posib ar swyddi a'r amgylchedd wrth ddefnyddio dur o dramor.
Mae'n ymwneud ag adrannau ac asiantaethau Llywodraeth y DU, ond dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa'r Cabinet y byddai'n ehangu i gynnwys mwy o gyrff cyhoeddus.
Ni fydd yn effeithio ar asiantaethau sydd wedi eu datganoli.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod tasglu eisoes yn ystyried cefnogi'r diwydiant dur drwy gytundebau yn y sector gyhoeddus.
Dywedodd yr undebau bod hyn yn "gam i'r cyfeiriad cywir" ond y dylai'r mesurau wedi bod mewn grym yn barod.
Ymateb o Gymru
Wrth ymateb, dywedodd Mark Reckless o UKIP Cymru bod y llywodraeth wedi gwneud "bron dim" i ddiogelu'r diwydiant dur a bod angen pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd er mwyn torri prisiau ynni a gosod tollau ar ddur o China.
Yr wythnos diwethaf, dywedodd yr Arglwydd Peter Hain, sy'n cefnogi'r ymgyrch i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, "nad yw'n gywir i ddweud y byddai'r diwydiant dur yn well pe bai ni allan o Ewrop" oherwydd bod gan y Comisiwn Ewropeaidd 37 o fesurau mewn grym i atal dur rhad rhag cael ei fewnforio, gan gynnwys 16 yn benodol yn ymwneud a China.
Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, mae 'na gwestiynau i'w hateb gan Lywodraeth Cymru am yr argyfwng, gan fod dau beth mae'r diwydiant wedi galw amdanynt - trethi busnes is a chaffaeliad yn y sector gyhoeddus - dan reolaeth Bae Caerdydd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig bod y diwydiant yn "ganolog i ddyfodol economi Cymru", a bod y blaid yn "falch o weld Llywodraeth y DU yn cymryd camau i newid rheolau caffael a rhoi cyfle teg i ddur y DU...".
Yn ôl Plaid Cymru, fe wnaethon nhw gyflwyno "cynllun cadarn ac adeiladol" ar ddechrau'r flwyddyn er mwyn "rhoi cyfle i'r diwydiant dur oroesi". Ond mae'r blaid yn honni bod y cynllun wedi ei wrthod gan Lywodraeth Cymru.