Gwasanaethau trên rhwng Wrecsam a Chaer wedi ailddechrau
- Cyhoeddwyd

Mae'r gwasanaeth trenau rhwng Wrecsam a Chaer wedi ailddechrau ar ôl i berson gael ei daro ar y rheilffordd.
Fe gafodd gwasanaethau rhwng Wrecsam a Chaer eu canslo a'u gohirio am hyd at 60 munud yn gynnar ddydd Llun.
Fe gafodd gwasanaethau bws eu defnyddio i gludo teithwyr.
Nid oes manylion pellach am gyflwr y person gafodd ei daro.