Cyhoeddi enw Chef de Mission Cymru yng ngemau 2018
- Cyhoeddwyd

Mae Gemau'r Gymanwlad Cymru wedi cyhoeddi enw'r Chef de Mission ar gyfer gemau Arfordir Aur Awstralia yn 2018.
Gydag union ddwy flynedd i fynd nes y digwyddiad, maen nhw wedi penodi'r Athro Nicola Phillips.
Daw'r cyhoeddiad ar ôl proses recriwtio ar gyfer y swydd, ac yn ôl Bwrdd Gemau'r Gymanwlad Cymru, roedd y penderfyniad o roi'r swydd i'r Athro Phillips yn unfrydol.
Mae'r Athro Phillips yn ffisiotherapydd siartredig ac wedi cael cadair bersonol yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd.
Bydd hi'n arwain tîm o athletwyr, hyfforddwyr, rheolwyr a staff i'w cefnogi yn y gemau.
'Wrth ei bodd'
Dywedodd y bwrdd fod yr Athro Phillips yn dod â "chyfoeth o brofiad i gefnogi athletwyr mewn digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol".
Yn ystod ei gyrfa, mae'r Athro Phillips wedi gweithio gyda thimau codi pwysau Cymru a Phrydain, undebau rygbi proffesiynol, gemau Olympaidd a gemau'r Gymanwlad.
Mae hi hefyd yn Llywydd Ffederasiwn Rhyngwladol Therapi Chwaraeon Corfforol.
Dywedodd yr Athro Phillips ei bod "wrth ei bodd" o gael ei phenodi.
"Dwi dal methu stopio gwenu," meddai. "Mae hwn yn anrhydedd enfawr ac ni allaf aros i ddechrau ar y swydd."