Adolygu 'da Alex Jones

  • Cyhoeddwyd
Alex Jones

Mae'n gyfnod prydeus i filoedd o bobl ifanc ar hyd a lled Cymru. Ydi, unwaith eto mae'n gyfnod yr arholiadau!

Ond peidiwch â phoeni gormod, mae gan BBC Cymru adnoddau i helpu'r rhai ohonoch chi sy'n astudio ar gyfer eich arholiadau TGAU.

Mae Alex Jones, cyflwynydd 'The One Show' wedi rhannu ei chyngor gyda Cymru Fyw o sut i fynd ati i ddysgu ffeithiau a chofio'r wybodaeth bwysig 'na:

Trylwyr

Ro'n i'n drylwyr iawn a do'n i ddim yn meindio adolygu. Ro'n i'n rhoi pwysau ar fy hunan - do'dd Mam a Dad ddim yn rhoi pwysau arna i. Ro'n i'n meddwl ymlaen at gael y canlyniadau fis Awst ac eisiau meddwl bo' fi wedi neud fy ngorau.

'Wy'n cofio cydbwyso adolygu gyda phethau eraill. Mae cymryd hoe yn bwysig achos bo' ti'n trial cofio gymaint o bethau. Mae'n bwysig i fwyta digon hefyd!

Bydden i'n nerfus iawn cyn yr arholiad ond unwaith i mi gyrraedd yr ystafell arholiad, ro'n i'n rhoi 'mhen i lawr am ddwy awr neu mwy.

'Wy'n credu fod bod yn nerfus yn dda achos mae e'n rhoi bach o adrenalin i ti, felly tro nerfusrwydd mewn i rywbeth positif.

Disgrifiad o’r llun,
Bydd adolygu yn dipyn haws os y defnyddiwch chi adnoddau newydd Bitesize y BBC

Trefnus

Bydden i'n darllen trwy'r llyfrau dosbarth o glawr i glawr a trial cofio gymaint o'n i'n gallu. 'Wy'n lwcus iawn bod cof da gyda fi a 'wy'n gallu cofio pethau fel dyddiadau ayyb. Mae hyn wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn fy ngyrfa i hefyd.

Ro'n i'n hynod o drefnus gyda fy ffeiliau a llyfrau a bydden i'n creu amserlen gan bod angen adolygu ar gyfer gymaint o bynciau gwahanol.

Mae e'n gyfnod anodd iawn i blant blwyddyn 11 ond mae gymaint o opsiynau gwahanol dyddiau hyn, does dim angen poeni'n ormodol os nag y'ch chi'n cael y graddau chi eisiau.

Ro'dd disgwyliadau i fynd ymlaen i astudio Lefel A ac i'r brifysgol adeg ro'n i'n yr ysgol ond mae gymaint o ffyrdd gwahanol i ddatblygu dyddiau hyn drwy brentisiaethau a chael profiad gwaith mwy ymarferol fel gwaith camera ac ati.

Disgrifiad o’r llun,
Fydd yr arholiadau ddim yn teimlo fel dringo craig serth os dilynwch chi gyngor Alex!

Cyngor da ar gael

Bydden i'n siarad ymysg fy ffrindiau ac yn cymharu nodiadau. Doedden ni ddim yn adolygu gyda'n gilydd achos bydden ni'n siarad gormod a ddim yn adolygu! Dyna pam oedd well 'da fi adolygu wrth fy hunan.

Roedd athrawon da iawn yn fy ysgol i oedd bob tro'n barod i roi cyngor.

Mae lot o bethau i dynnu sylw pobl ifanc dyddiau hyn - yn enwedig cyfryngau rhyngweithiol - felly bosib fod hi'n anoddach i ganolbwyntio. Dw i'n cael fy nistractio'n hawdd gyda phethau fel Twitter ond yn trio cyfyngu e i hanner awr yn y bore.

Tip fi bydde rhoi deg munud i dy hunan ryw deirgwaith y dydd i ymlacio ac edrych ar wefannau cymdeithasol.

Dim rhyngrwyd!

Do'dd dim mynediad 'da fi i'r we pan ro'n i'n adolygu ar gyfer TGAU. Bydden i'n mynd i'r llyfrgell a falle dim ond dau lyfr o'n i'n gallu eu cael. Ro'dd yn rhaid i ni ddysgu i rannu adnoddau.

Mae gymaint o adnoddau ar gael i fyfyrwyr nawr gan gynnwys gwefan BBC Bitesize ac mae help ar BBC Radio 1 hefyd.

Ro'n i'n joio Hanes a Drama yn yr ysgol a ches i fy nghanlyniadau gorau yn Drama. Mae pobl yn meddwl bod Lefel A Drama yn rhwydd ond dyw e ddim o gwbwl!

Ro'n i'n joio ieithoedd hefyd fel Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg a llenyddiaeth.

Do'n i ddim cystal yn Mathemateg. Ro'n i'n sylweddoli hynny felly ro'n i'n gw'bod nad oeddwn ni'n mynd i weithio yn y maes hwnnw!

Pob lwc bawb!

(Addasiad yw hon o erthygl gyhoeddodd Cymru Fyw ym mis Ebrill 2015)

Disgrifiad o’r llun,
"Pob hwyl i chi gyda'r adolygu!"