Cyhoeddi enwau rhestr fer gwobrau Tir na n-Og

  • Cyhoeddwyd
Plentyn yn darllenFfynhonnell y llun, Science Photo Library

Mae'r rhestr fer ar gyfer gwobrau Tir na n-Og wedi eu cyhoeddi.

Dau gategori sydd yn bodoli ar gyfer llyfrau Cymraeg sef y categori cynradd ac uwchradd tra bod un categori ar gyfer llyfrau Saesneg sef llyfr gorau'r flwyddyn.

Fe gafodd 33 o gyfrolau eu cyflwyno i'r panel.

Mae'r gwobrau, gafodd eu sefydlu er mwyn codi safon llyfrau plant a phobl ifanc, yn dathlu pen-blwydd yn ddeugain mlwydd oed eleni.

Wrth drafod y llyfrau ddaeth i law eleni dywedodd Eirian James, Cadeirydd Panel Dewis y Gwobrau Cymraeg: "Ymysg y llyfrau roedd nifer fawr o storïau gair-a-llun i'r plant lleiaf, dewis da o lyfrau i blant sy'n cychwyn darllen ar eu pennau eu hunain, nofelau antur, storïau hanesyddol, llyfrau anrheg, cerddi, a llyfrau ffeithiol i blant hŷn, ynghyd â nifer fechan iawn o lyfrau i'r arddegau.

"Er ein bod yn hapus gyda'r nifer a'r amrywiaeth o gyfrolau yn gyffredinol, byddem wedi hoffi gweld mwy o gyfrolau ar gyfer yr arddegau."

'Hyrwyddo'r goreuon'

Dywedodd Elwyn Jones, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau: "Mae'n bwysicach nag erioed fod y cyhoeddiadau ar gyfer plant a phobl ifanc yn gyffrous, yn ddeniadol ac o'r safon uchaf.

"Dyma'r modd i ddenu plant i ddarllen a sicrhau eu bod yn dod yn ddarllenwyr am oes.

"Mae gan Wobrau Tir na n-Og, ar gyfer llyfrau Cymraeg a llyfrau Saesneg o Gymru, le amlwg i arddangos a hyrwyddo'r goreuon yn y maes ac rydym yn llongyfarch yr awduron, y darlunwyr a'r cyhoeddwyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni."

Bydd yr enillwyr ar gyfer y categorïau Cymraeg yn cael eu cyhoeddi yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni.

Bydd enw enillydd y wobr Saesneg yn cael ei gyhoeddi mewn digwyddiad yn Llyfrgell Aberystwyth ar 26 Mai.

Y rhestr fer

Categori Cynradd Cymraeg

  • Santa Corn - Ceri Wyn Jones,
  • Coeden Cadi - Bethan Gwanas
  • Pedair Cainc y Mabinogi - Siân Lewis. Y dylunydd oedd Valériane Leblond.

Categori Uwchradd Cymraeg

  • Stori Cymru - Myrddin ap Dafydd
  • Paent! - Angharad Tomos
  • Gwalia - Llŷr Titus

Llyfr Saesneg Gorau'r Flwyddyn

  • The Search for Mister Lloyd - Griff Rowland
  • Longbow Girl - Linda Davies
  • The Four Branches of the Mabinogi - Siân Lewis. Y dylunydd oedd Valériane Leblond.
  • Ruck in the Muck - Ceri Wyn Jones