Wylfa Newydd: Dim ond 'siawns bychan' o ddigwydd

  • Cyhoeddwyd
Wylfa Newydd
Disgrifiad o’r llun,
Delwedd arlunydd o safle arfaethedig Wylfa Newydd

Dim ond siawns bychan sydd yna y bydd cynlluniau i godi pwerdy niwclear newydd ar Ynys Môn yn cael eu gweithredu, yn ôl arbenigwr ar y diwydiant.

Mae Mycle Schneider yn ymgynghorydd annibynnol ac yn brif awdur adroddiad blynyddol y World Nuclear Status Report.

Mae'n dadlau y bydd y trafferthion sydd wedi wynebu atomfa arfaethedig Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf yn effeithio ar allu Wylfa Newydd i ddenu buddsoddwyr.

Ond mae'r cwmni sy'n gyfrifol am y datblygiad, Pŵer Niwclear Horizon, yn mynnu ei fod yn gwbl ffyddiog y bydd y pwerdy Cymreig yn gweld golau dydd.

Mewn cyfweliad â rhaglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru, dywedodd Mr Schneider, sydd wedi cynghori llywodraethau Ffrainc a'r Almaen ar bolisi niwclear:

"Mae prosiect Hinkley Point mewn trafferthion dybryd ac fe allech chi ddadlau bod 'na fwy o ansicrwydd fyth yn achos Wylfa Newydd."

Byddai angen "cymorthdaliadau clir iawn a sylweddol iawn" ar y pwerdy yn Sir Fôn os yw am fod yn llwyddiant, meddai.

Mae Horizon mewn trafodaethau gyda'r Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) ar faterion sy'n cynnwys y pris fydd yn cael ei warantu am drydan o'r safle.

Fe fydd y pris hwnnw, o gael ei gytuno, yn allweddol ar gyfer denu cyllid ychwanegol i'r prosiect.

Amserlen arfaethedig Wylfa newydd

  • 2017 - Horizon i gyflwyno cais cynllunio ar gyfer Wylfa Newydd
  • 2018 - Paratoi'r safle ar gyfer gwaith adeiladu
  • 2020 - Gosod y concrit cyntaf
  • 2025 - Wylfa Newydd i ddechrau cynhyrchu trydan

Dywedodd Richard Foxhall o Horizon wrth BBC Cymru y bydd angen i fuddsoddwyr eraill ddod i'r fei er mwyn sicrhau bod Wylfa Newydd yn llwyddiant a bod trafodaethau a chyfranwyr posib wrthi'n digwydd.

"Mae'n hollbwysig ein bod ni'n creu'r amodau cywir ar gyfer denu buddsoddiad ac mae hynny'n rhan o'n trafodaethau ni gyda'r llywodraeth," meddai.

"Ond ry'n ni'n hyderus iawn, iawn y bydd y trafodaethau yna yn rhai llwyddiannus."

Ffynhonnell y llun, Magnox
Disgrifiad o’r llun,
Daeth y gwaith o gynhyrchu trydan i ben ar yr hen safle ym mis Rhagfyr

Dadansoddiad Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru, Steffan Messenger

Mynnu nad ydyn nhw'n ddibynnol "mewn unrhyw ffordd" ar lwyddiant neu fethiant Hinkley Point C, y mae Horizon.

Mae eu hyder yn deillio o'r ffaith fod cynllun yr adweithyddion fydd yn cael eu defnyddio gan Wylfa Newydd yn wahanol i'r rheini sydd wedi achosi oedi hir a gorwario dybryd i'r datblygwr Ffrengig EDF.

Er nad yw'r Adweithydd Dŵr Berwi Uwch wedi'i drwyddedu ym Mhrydain eto, mae'r dechnoleg eisoes ar waith yn Japan.

Ond mae eraill - gan gynnwys Mycle Schneider - yn dadlau eu bod hi'n anochel y bydd hunllef hir Hinkley'n cael effaith ar dynged y pwerdai niwclear eraill sydd dan ystyriaeth ym Mhrydain.

Yn gynharach eleni fe wnaeth cadeirydd Hitachi, y cwmni sy'n berchen ar Horizon, rybuddio ei fod yn barod i gefnu ar y prosiect os nad yw Llywodraeth y DU yn barod i ddod i gytundeb addas.

Mynnu eu bod yn ceisio sicrhau ynni niwclear am bris isel mae'r llywodraeth.

Yn ôl arweinydd Cyngor Môn, Ieuan Williams mae'n "allweddol bod y prosiect yn mynd yn ei flaen" er mwyn sicrhau cyflenwadau trydan y DU yn y dyfodol a swyddi da i'r economi leol.

"Mae prosiectau niwclear yn gymhleth, yn gostus ac yn cymryd amser i'w hadeiladu," meddai.

"Ond dwi'n credu bod polisi ynni'r Deyrnas Unedig yn ffafrio niwclear. Felly dwi'n credu ei bod hi'n annhebygol iawn na welwn ni Wylfa Newydd yn cael ei godi."