Euro 2016: Y daith i Ffrainc
- Published
9 Medi, 2014.
Gyda naw munud yn weddill o gêm gyntaf Cymru, roedd hi'n ymddangos bod eu gobeithion i gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2016 ar ben cyn iddyn nhw ddechrau bron.
Ar gae artiffisial oedd mewn cyflwr truenus, roedd Cymru'n gyfartal gydag un o'r timau lleia' llwyddiannus yn hanes pêl-droed Ewrop - Andorra.
Wedi chwe munud o'r gêm fe sgoriodd Andorra eu gôl gystadleuol gyntaf ers pedair blynedd, ac roedden nhw o fewn naw munud i sicrhau eu pwynt cyntaf mewn 45 gêm.
Fe gafodd Cymru gic rydd - daeth dim byd ohoni, ond fe welodd y dyfarnwr rhywbeth o'i le a gorchymyn ei chymryd eto. Fe darodd Gareth Bale ei ail ergyd i'r rhwyd ac roedd tîm Chris Coleman ar eu ffordd.
Mae'n bosib mai dyna un o goliau pwysicaf yr holl ymgyrch - fe fyddai methu â churo Andorra wedi bod yn ddechrau trychinebus.
Bosnia - 10 Hydref 2014
Pan ddaeth yr enwau o'r het ar gyfer y rowndiau rhagbrofol, rhaid cofio bod Cymru ymhlith y pedwerydd detholion, gydag Israel, Gwlad Belg a Bosnia Hercegovina uwch eu pennau.
Er mai'r Belgiaid oedd yr uchaf ymhlith detholion y byd ar y pryd, Bosnia oedd prif ddetholion y grŵp, ac roedd y gêm nesaf yng Nghaerdydd felly yn allweddol.
Fe gafodd rhai eu siomi gyda'r gêm ddi-sgôr a gafwyd, ond roedd pwynt - a chyfuno hynny gyda'r ffaith i Bosnia golli eu gêm gyntaf yn annisgwyl i Gyprus - yn hwb i obeithion Cymru.
Cyprus - 13 Hydref 2014
Dridiau yn ddiweddarach, Cyprus oedd yn ymweld â Chaerdydd gyda'r Cymry'n gobeithio esgyn i frig y grŵp. Doedd dim siom y tro hwn.
Fe gafodd Cymru ddechrau gwell, ac o fewn 23 munud roedden nhw ddwy ar y blaen diolch i David Cotterill a Hal Robson-Kanu.
Doedd yr holl ymgyrch ddim yn un hawdd, ac roedd y gêm yma'n dangos hynny i'r byw.
Cyn yr egwyl fe gafodd Cyprus un yn ôl, ac yna'n fuan wedi'r egwyl fe welodd Andy King gerdyn coch.
Llwyddodd deg dyn Cymru i ddal eu gafael ar y fantais am y 43 munud oedd yn weddill. Tair gêm heb golli, ac ar frig Grŵp B.
Gwlad Belg - 16 Tachwedd 2014
Y prawf mwyaf hyd yma oedd y daith i Frwsel i herio Gwlad Belg - y tîm oedd bellach yn agos at frig rhestr detholion y byd.
Er bod rhai o'r ystadegau'n awgrymu bod Cymru wedi bod yn ffodus, rhaid cofio mai dim ond pum ergyd at y gôl a gafodd y tîm cartref tra bod Cymru wedi cael pedair.
Gêm ddi-sgôr arall, ond un wahanol iawn i'r Cymry gan ei bod yn dechrau'r sibrydion ymysg y cefnogwyr, y wasg a'r tîm rheoli... "Fe allwn ni ei 'neud hi!"
Yr unig rwystredigaeth oedd y byddai'n rhaid aros am bedwar mis cyn y gêm nesaf.
Israel - 28 Mawrth 2015
Dechrau'r gwanwyn â thaith i Haifa. Roedd Israel wedi cael canlyniadau rhagorol, ac yn bygwth cyrraedd y rowndiau terfynol eu hunain.
A fyddai gan Gymru ateb i'r tîm oedd wedi ennill eu tair gêm gyntaf yn gyffyrddus, gan gynnwys buddugoliaeth swmpus yn erbyn Bosnia?
O oedd!
Roedd yr hanner cyntaf bron ar ben pan sgoriodd Aaron Ramsey y gyntaf, ond roedd Cymru'n llawn haeddu'r fantais.
O fewn tri munud i ddechrau'r ail hanner roedd Gareth Bale wedi dyblu'r fantais, a bron yn syth wedi hynny fe welodd Eitan Tibi y cerdyn coch, a doedd dim ffordd yn ôl i Israel.
Ychwanegodd Bale un arall cyn y diwedd, ac roedd y fuddugoliaeth syfrdanol o 3-0 yn gam anferth ymlaen i Chris Coleman a'i dîm.
Roedd pawb nawr yn credu bod gobaith, cyn belled bod modd sicrhau pwynt yn y gêm nesaf - ymweliad y Belgiaid â Chaerdydd!
Gwlad Belg - 12 Mehefin 2015
Bron flwyddyn i'r diwrnod cyn dechrau Euro 2016, ac fe ddaeth y tîm oedd bellach ar frig rhestr detholion y byd i Gaerdydd. Mae'r ystadegau'n frawychus.
- Meddiant: Cymru 39% - Belg 61%
- Ergydion at gôl: Cymru 6 - Belg 21
- Ciciau cornel: Cymru 1 - Belg 9
Camgymeriad erchyll gan y Belgiaid yn rhoi'r bêl at Gareth Bale yn y cwrt - troi - ergydio - sgorio.
Do fe fu'n rhaid i Gymru amddiffyn yn ddewr am gyfnodau hir yn yr ail hanner, ond roedd y fuddugoliaeth yma'n ysgwyd Stadiwm Dinas Caerdydd at ei seiliau.
Bellach doedd y cefnogwyr ddim yn gobeithio y byddai Cymru'n cyrraedd Ffrainc... roedden nhw'n disgwyl hynny.
Cyprus - 3 Medi 2015
Prin fod neb yn cofio adeg pan y gwnaeth Cymru bethau'n hawdd iddyn nhw'u hunain!
Draw ar ynys Cyprus fe gafwyd 82 munud arall o rwystredigaeth er i Gymru ddechrau'n dda.
Roedd hi'n ymddangos y byddai'n rhaid bodloni ar un pwynt tan i Gareth Bale gamu i'r adwy unwaith eto.
Jazz Richards - un o arwyr tawel yr ymgyrch - roddodd y croesiad gyda blaenwr Real Madrid yn penio i'r rhwyd gan ddechrau dathliadau ar y fainc fydd yn cael ei gofio am hir.
Roedd y rhyddhad yn amlwg - roedd tair gêm yn weddill gyda dwy ohonyn nhw yng Nghaerdydd.
Israel - 6 Medi 2015
Fe ddaeth y gyntaf dridiau yn ddiweddarach wrth i Israel ddod i Gaerdydd.
Fe fyddai triphwynt wedi sicrhau lle Cymru yn Ffrainc, a does neb a welodd y gêm yma'n siŵr iawn pam mai dim ond un a gafwyd.
Roedd Cymru'n feistri corn ar dîm oedd yn gysgod o'r un ddechreuodd yr ymgyrch mor gryf, a phrin fod Israel wedi bygwth gôl Wayne Hennessey gydol y gêm.
Ond doedd dim achubiaeth funud olaf y tro hwn. Er i Gymru daro 17 ergyd ar gôl yr ymwelwyr, ni lwyddodd yr un i gyrraedd y nod.
Draw yng Nghyprus, fe ddaeth yr ynyswyr o fewn pedwar munud i ganlyniad fyddai wedi sicrhau lle Cymru yn Ffrainc, ond pan sgoriodd Eden Hazard i Wlad Belg yn yr 86ed munud roedd Coleman yn gwybod bod mwy o waith i'w wneud.
Bosnia - 10 Hydref 2015
Taith i Bosnia oedd y gêm nesaf, ond erbyn hyn roedd Cymru'n gwybod y byddai angen cyfuniad go anarferol o ganlyniadau er mwyn eu hatal rhag cyrraedd Ffrainc.
Ond fe ddechreuodd y cyfan gyda noson rwystredig i Gymru yn Zenica. Cymru'n chwarae'n well, ond Bosnia'n sgorio'r goliau.
Fe ddaeth y ddwy gôl yn hwyr yn y gêm oedd yn golygu bod Cymru wedi colli am y tro cyntaf yn yr ymgyrch, ond er hynny roedd gobaith o hyd.
Er mwyn rhwystro Cymru rhag mynd ymlaen, roedd rhaid i Israel ennill gartref yn erbyn Cyprus.
Pan sgoriodd Jason Demetriou y gôl fuddugol i Cyprus, roedd Cymru ar eu ffordd...
Andorra - 13 Hydref 2015
Roedd hi'n addas rhywsut bod Cymru'n gallu cloi'r ymgyrch gyda dathliad o gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd, a hynny yn erbyn y tîm achosodd cymaint o drafferthion iddyn nhw 13 mis yn gynharach.
Roedd hi'n addas hefyd bod y ddau seren gyfrannodd cymaint at lwyddiant yr ymgyrch - Gareth Bale ac Aaron Ramsey - wedi sgorio'r ddwy gôl sicrhaodd fuddugoliaeth o flaen cefnogwyr oedd ar ben eu digon.
Does fawr neb yn cofio bod Cymru wedi bod yn rownd olaf pencampwriaeth Ewrop yn 1976 - doedd y gystadleuaeth ddim yn un fawr iawn ar y pryd pan gollodd Cymru dros ddau gymal yn erbyn Iwgoslafia.
Mae pawb yn cofio bod Cymru heb gyrraedd rowndiau terfynol un o brif gystadlaethau'r byd ers 1958...
...gwnewch hynna'n 2016.
Straeon perthnasol
- Published
- 9 Medi 2014
- Published
- 10 Hydref 2014
- Published
- 13 Hydref 2014
- Published
- 16 Tachwedd 2014
- Published
- 29 Mawrth 2015
- Published
- 13 Mehefin 2015
- Published
- 3 Medi 2015
- Published
- 6 Medi 2015
- Published
- 11 Hydref 2015
- Published
- 13 Hydref 2015