Plaid Cymru i 'ail-gyfeirio' £1bn o'r gyllideb

  • Cyhoeddwyd
Leanne Wood

Byddai Plaid Cymru yn "ail-gyfeirio" £1bn o gyllideb £15bn Llywodraeth Cymru drwy roi terfyn ar rai cynlluniau gan ddarganfod arbedion eraill.

Mae maniffesto'r blaid ar gyfer etholiad y Cynulliad yn addo £200m o arbedion blynyddol o fewn 100 diwrnod o ennill grym.

Byddai adolygiad gwariant erbyn Gwanwyn 2017 yn anelu at godi'r swm hwnnw i £300m bob blwyddyn.

Mae gan y blaid hefyd nod o wneud arbedion o £300m i'r Gwasanaeth Iechyd gyda'i pholisi ffioedd dysgu hefyd yn arbed £250m.

Dyma'r cynlluniau "mwyaf uchelgeisiol" ers datganoli, meddai arweinydd y blaid, Leanne Wood.

Mae torri amseroedd aros mewn ysbytai, gofal iechyd am ddim a chefnogaeth i athrawon ymhlith y prif bolisïau'r fydd yn cael eu cyllido gan yr arbedion.

'Creu cyfoeth'

"Rydym yn cydnabod Cymru fel cenedl wleidyddol o fewn ei hawl ei hun," meddai.

"Dyna pam dylai ein gwlad gael y teclynnau i weithredu fel cenedl, i arloesi, creu swyddi ac i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gyda'r gorau yn y byd."

Mae cyfle i adeiladu "math newydd o gymdeithas yng Nghymru", meddai Ms Wood, "sy'n hyrwyddo cydraddoldeb, creu cyfoeth, rhannu cyfoeth ac ehangu cyfleoedd mewn bywyd".

Mae Plaid Cymru hefyd yn dweud byddai cap ar daliadau diswyddo yn y sector cyhoeddus yn arbed £40m.

Dyma raglen llywodraeth sydd wedi ei gwirio yn annibynnol, am y tro cyntaf, gan academwyr o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, yn ôl y blaid.

Hwn yw'r maniffesto cyntaf i gael ei gyhoeddi yn ystod ymgyrch etholiad y Cynulliad yma.

Mae Plaid Cymru eisoes wedi cyhoeddi naw polisi allweddol, yn cynnwys recriwtio 1,000 o ddoctoriaid a 5,000 o nyrsys a thalu gwerth £18,000 o ddyled prifysgol pe bai myfyrwyr yn dychwelyd i Gymru.