Tata: Annog Cameron i gynnig cefnogaeth 'sylweddol'

  • Cyhoeddwyd
bbcFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Carwyn Jones tu allan i Downing Street

Mae Carwyn Jones wedi annog David Cameron a'i lywodraeth i gynnig cefnogaeth "sylweddol" i unrhyw brynwr posib o gwmni dur Tata.

Wedi cyfarfod yn Downing Street ddydd Mawrth, dywedodd prif weinidog Cymru ei bod yn "galonogol" clywed bod sawl opsiwn yn parhau i gael eu hystyried i achub y diwydiant.

Mae pryder am 6,000 o swyddi dur yng Nghymru - 4,000 ym Mhort Talbot - ar ôl i Tata gyhoeddi ei fod eisiau gwerthu ei safleoedd yn y DU.

Fe ddatgelodd Mr Jones hefyd bod pensiynau, prisiau egni a thollau ymysg y materion sydd dan ystyriaeth.

Mae prif weinidog Cymru wedi dweud y byddai'n cefnogi'r syniad bod Llywodraeth y DU yn prynu'r safleoedd nes bod prynwr arall yn dod i'r amlwg.

Fe gadarnhaodd Mr Jones ddydd Llun bod pecyn gwerth £60m ar gael i Tata gan Lywodraeth Cymru,

Byddai hynny'n cynnwys benthyciad masnachol yn ogystal â gwelliannau amgylcheddol ac arian ar gyfer hyfforddiant.

Ffynhonnell y llun, WPA pool

Bu'r Canghellor George Osborne, yr Ysgrifennydd Busnes Sajid Javid ac Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns hefyd yn rhan o'r trafodaethau ddydd Mawrth.

Mae disgwyl i Mr Javid hedfan i India'n ddiweddarach i drafod gwerthiant posib Tata gyda chadeirydd y cwmni.

Cyn hedfan i India mi fydd yn trafod gyda'r cwmni Liberty House.

"Mae'n grêt bod Liberty ac eraill yn barod wedi dangos diddordeb ac mae'n grêt bod yna ddiddordeb yn bodoli. Y peth cywir yw bod Llywodraeth Prydain yn chwarae ei rôl.

"Dw i wedi trio amlinellu sut y gallwn ni helpu. Mae yna lawer o fanylion i ddatrys ac wrth gwrs mae'n dibynnu pwy fydd y prynwr. Ond y peth pwysig yw ein bod ni yn barod i weithio gyda'r prynwyr pan maen nhw'n dangos diddordeb."

Mewn sesiwn frys yn y Cynulliad ddydd Llun, dywedodd Mr Jones na all y diwydiant dur ym Mhrydain farw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Mr Cameron cyn y cyfarfod: "Mae'r Llywodraeth yn gwneud popeth yn ei allu i ddarganfod datrysiad hirdymor, ymarferol i achub gwaith dur Port Talbot.

"Yn y cyfarfod y bore 'ma, fe fydda i a Carwyn Jones yn edrych ar sut y gall Llundain a Chaerdydd gydweithio i sicrhau bod gan y safle ddyfodol cadarn, a dod a'r ansicrwydd i ben i weithwyr a'u teuluoedd."

Mae'r prif weinidog wedi dweud nad yw o blaid gwladoli'r busnes.

'Ddim yn gwneud digon'

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams wedi croesawu'r cyfarfod rhwng y ddau arweinydd. Ond mae'n dweud nad yw'r ddwy lywodraeth yn "gwneud digon i achub y diwydiant dur".

Yn ôl Kirsty Williams dylai llywodraeth San Steffan lobïo er mwyn rhoi tollau ar ddur o China ac mae'n dweud bod gweithfeydd dur yn dal i dalu trethi busnes uchel, rhywbeth y dylai Prif Weinidog Cymru fod wedi mynd i'r afael ag o meddai.

Yn y gorffennol mae arweinydd Plaid Cymru wedi bod yn feirniadol o ymateb Mr Jones i'r argyfwng dur a dywedodd y dylai ystyried pob opsiwn.

"Mae ei lywodraeth yn edrych fwy fel grŵp pwyso pan ddylai gymryd arweiniad strategol," meddai Leanne Wood.

Ffynhonnell y llun, PA

Ond mae Andrew R T Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod y cyfarfod fore Mawrth yn dangos bod Llywodraeth San Steffan yn cymryd y mater o ddifri a'i bod hi'n hanfodol bod pawb yn "gweithio gyda'i gilydd i sicrhau dyfodol hir dymor, hyfyw" i'r diwydiant.

Mae ymgeisydd Cynulliad UKIP, Mark Reckless wedi dweud bod y blaid eisiau "diogelu'r diwydiant dur".

Dywedodd y bydden nhw'n darparu cymaint â phosib o "gefnogaeth ariannol" nes y refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin.