Gwrthdrawiad angheuol: Apelio am wybodaeth

  • Cyhoeddwyd
Car heddlu

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn Nhrefor ger Caergybi fore Mawrth.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ffordd y B5109 toc wedi 7:40.

Mi ddigwyddodd y ddamwain rhwng fan Ford Transit a beic. Mi fuodd dyn lleol, oedd ar y beic, farw yn y fan a'r lle.

Fe gafodd y ffordd ei hailagor toc wedi 14:00.

Mae ymchwiliad i'r hyn ddigwyddodd yn parhau, ac mae'r heddlu yn awyddus i siarad ag aelod o'r cyhoedd oedd yn teithio ar feic modur ger cyffordd Trefor rhwng 7:00 a 8:00.

Maen nhw'n gofyn i unrhyw un a welodd yr hyn ddigwyddodd i gysylltu trwy ffonio 101.