Agor cwest i farwolaeth carcharor mewn cell
- Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi agor i farwolaeth dyn a gafodd ei ganfod yn crogi yn ei gell yng Ngharchar Abertawe.
Cafwyd hyd i gorff Scott Bevan ar 18 Medi 2010 - ar drothwy ei ben-blwydd yn 22 - ac ychydig ddiwrnodau wedi iddo ddechrau ar ddedfryd o wyth mis yn y carchar.
Roedd Bevan wedi torri amodau ei orchymyn cymunedol am achosi niwed corfforol.
Mae'r Ombwdsmon Carchardai a'r Gwasanaeth Phrawf yn ymchwilio i'r farwolaeth.
Fe glywodd y rheithgor yn Llys y Crwner Abertawe gyfweliad gydag un o uwch-swyddogion y carchar, Alun Davies, a oedd ar ddyletswydd pan gyrhaeddodd Bevan yno.
Yn ystod ei asesiad o Bevan, dywedodd Mr Davies "nad oedd risg o hunan-niweidio" a'i fod yn addas i rannu cell.
Fe glywodd y rheithgor hefyd y bu Bevan yng Ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont, a'i fod wedi hunan-niweidio ac hefyd wedi defnyddio cyffuriau.
Cafodd Bevan ei ddisgrifio gan Mr Davies fel rhywun "parchus, cwrtais a bonheddig" fyddai "ddim yn broblem".
Pan glywodd am ei farwolaeth, dywedodd Mr Davies: "Roeddwn wedi dychryn ac wedi fy synnu ac yn ofidus iawn ar ran ei deulu."