Carcharu dyn am greu delweddau anweddus
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o Wrecsam wedi ei garcharu am ddeng mis am gynhyrchu a chadw delweddau anweddus o blant.
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug, dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands wrth Michael Shaun Slawson, sy'n 30 oed, bod rhaid ei garcharu ar unwaith am fod cymaint o ddelweddau o'r math mwyaf difrifol yn ei feddiant.
Clywodd y llys fod Slawson yn byw bywyd unig iawn gyda'i rieni yn ardal Hightown.
Cafodd orchymun i gofrestru gyda'r heddlu fel troseddwr rhyw am ddeng mlynedd, a chafodd orchymun atal niwed rhywiol.
3,000 o ddelweddau categori A
Dywedodd y barnwr fod dros 3,000 o ddelweddau a ffilmiau categori A wedi eu darganfod oedd yn fater difrifol.
"Mae'n bosib eich bod yn credu eich bod ymhell i ffwrdd o'r hyn oedd yn digwydd i'r plant yna, filoedd o filltiroedd i ffwrdd.
"Ond gallwch werthfawrogi na fyddai plant yn cael eu rhoi drwy'r profiadau ofnadwy yma oni bai amdanoch chi a'ch math sy'n chwilio am y delweddau hyn."
Cyfaddefodd y diffynydd i gyfanswm o wyth cyhuddiad - chwech o wneud delweddau a ffilmiau anweddus, a dau o fod a 9,886 o ddelweddau a 63 ffilm yn ei feddiant.
Byw 'bywyd unig'
Dywedodd Ceri Evans ar ran yr amddiffyniad fod ei chleient yn ddyn o gymeriad da a oedd wedi bod yn agored a gonest gyda'r heddlu o'r dechrau.
Roedd yn unig blentyn oedd yn byw bywyd unig.
Roedd ganddo hanes o fod wedi dioddef ymsodiad seicolegol a chorfforol oedd wedi gadael effaith arno.
"Dyw e prin yn gadael y tŷ. Mae'n treulio'r rhan fwyaf, os nad ei holl amser, yn gwylio ffilmiau ar ei gyfrifiadur," eglurodd Miss Evans.
Dywedodd fod y diffynydd yn barod i newid ei ffordd a delio â'i ymddygiad a oedd wedi datblygu dros gyfnod o amser. Roedd yn difaru'r hyn yr oedd wedi ei wneud ac wedi dangos edifeirwch.
Dywedodd y barnwr mai'r hyn a oedd yn anodd yn yr achos hwn oedd y ffaith fod ganddo 3,000 ddelweddau a ffilmiau o'r math gwaethaf - categori A - yn ei feddiant.
"Mae hynny'n llawer iawn," meddai.
Cymerodd i ystyriaeth ei fod wedi pledio'n euog, ei gefndir, ei gymeriad da a'r ffaith ei fod wedi byw bywyd eithaf unig, a oedd wedi cyfrannu at ei ymddygiad.