Cynhadledd treftadaeth yn dod i Wynedd

  • Cyhoeddwyd
Castell CaernarfonFfynhonnell y llun, Mike Searle/Geograph

Bydd Cymru'n croesawu cynhadledd Treftadaeth y Byd y Deyrnas Unedig yn nes ymlaen eleni.

Bydd yn cael ei chynnal yng Nghaernarfon, lle mae Cestyll a Muriau Trefi y Brenin Edward yng Ngwynedd wedi eu dynodi'n un o Safleoedd Treftadaeth y Byd.

Ym mis Hydref y caiff y gynhadledd ei chynnal, yr un pryd ac y bydd Castell Caernarfon yn croesawu arddangosfa pabis eiconig y 'Weeping Window'.

Mae'r gynhadledd yn cael ei hystyried yn gyfle i hybu diwylliant Cymru, ac i dynnu sylw at ba mor hawdd yw hi i gymunedau lleol gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau yn yr henebion pwysig hyn.

Yn ogystal, cyfle i roi sylw i safleoedd treftadaeth pwysig eraill ledled Cymru hefyd.

Disgrifiad o’r llun,
Mae arddangosfa'r 'Weeping Window' yn dod i Gaernarfon yn yr hydref, yr un adeg a'r gynhadledd.

Dywedodd Ken Skates, y Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth; "Rwy'n falch iawn bod cynhadledd Treftadaeth y Byd y Deyrnas Unedig yn dod i Ogledd Cymru yr hydref hwn.

"Mae ein treftadaeth yma yng Nghymru yn gyfoethog ac yn amrywiol iawn; mae hwn yn gyfle heb ei ail i ddathlu ac arddangos ein hasedau diwylliannol ar lwyfan rhyngwladol."

Mae disgwyl i 100 o gyfranogwyr o bob cwr o'r Deyrnas Unedig i ddod i'r gynhadledd.

Ychwanegodd Sam Rose, Cadeirydd Treftadaeth y Byd y Deyrnas Unedig: "Bydd y gynhadledd hon yn helpu Treftadaeth y Byd y DU i gyflawni ei nod o hybu a chodi ymwybyddiaeth ym Mhrydain a thramor o'r 29 safle treftadaeth y byd.

"Yng Nghaernarfon, byddwn yn dod ag asiantaethau treftadaeth a busnesau sy'n ymddiddori mewn treftadaeth ynghyd i drafod ffyrdd gwell o ofalu am y safleoedd pwysig hyn am genedlaethau i ddod.

"Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gynnal y gynhadledd yng Nghymru."