Sylwadau Chwe Gwlad: Gwahardd Joe Marler
- Cyhoeddwyd

Mae prop Lloegr, Joe Marler wedi cael ei wahardd o'r gamp am ddwy gêm, yn ogystal â derbyn dirwy o £20,000 gan sefydliad Rygbi'r Byd, a hynny wedi iddo wneud sylwadau sarhaus am chwaraewr Cymru, Samson Lee.
Roedd Marler, sy'n 25 oed, eisoes wedi cael ei glirio gan broses ddisgyblu pencampwriaeth y Chwe Gwlad, ond fe benderfynodd sefydliad Rygbi'r Byd i gynnal ymchwiliad eu hunain.
Gwnaeth y sylw yn y gêm rhwng Cymru a Lloegr ym mis Mawrth, ac fe dderbyniodd Sampson Lee ymddiheuriad gan Marler wedi'r gêm.
Mae gan chwaraewr yr Harlequins saith niwrnod i apelio yn erbyn penderfyniad y bwrdd.