Dod â'r 'hwyl' yn ôl i ganu emynau?
- Cyhoeddwyd

Mae yna wahoddiad i eglwysi gymryd rhan mewn rhaglen hyfforddiant newydd mewn ymdrech i godi safon eu cerddoriaeth a dod â'r "hwyl traddodiadol Gymreig" yn ôl i ganu emynau.
Mae Ysgol Frenhinol Cerddoriaeth Eglwys (RSCM) yn lansio rhaglen yng Nghymru i gefnogi organyddion, arweinwyr addoli, aelodau corau a chynulleidfaoedd sydd heb fawr neu ddim adnoddau cerddorol i'w gwneud yn fwy hyderus i ddefnyddio cerddoriaeth fel rhan o addoliad.
Bydd Menter Gerdd yn cael ei lansio yng nghanolfan Venue Cymru, Llandudno ddydd Iau.
Mae Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru, yn annog staff a chynulleidfaoedd i gymryd rhan. "Mae gan gerddoriaeth ran bwysig tu hwnt mewn addoliad Cristnogol, yn neilltuol yma yng Nghymru lle cawn ein hadnabod am ein canu emynau brwdfrydig!
"Rydym yn ddiolchgar iawn am help a chefnogaeth yr RSCM ac rwy'n siŵr y bydd y cyrsiau hyn yn rhoi'r sgiliau mae ein heglwysi eu hangen er mwyn cadw'r traddodiad cerddorol yn gryf ac efallai eu hannog i roi cynnig ar rywbeth newydd."
Dywedodd Stuart Robinson, cydlynydd yr RSCM yng Nghymru, fod angen rhoi hwb mawr i gerddoriaeth mewn eglwysi. "Mae'r rhaglen yma ar gyfer eglwysi ym mhob rhan o Gymru, o eglwys nodweddiadol mewn tref lle gallai fod organydd a chôr neu grŵp y mae cerddoriaeth yn fynegiant pwysig o'u ffydd iddynt, i eglwysi gwledig bach yn y bryniau heb fawr neu ddim adnoddau cerddorol neu gerddorion i'w yrru," meddai.