Tata: Gweinidog yn cyfarfod perchnogion

  • Cyhoeddwyd
gwaith dur

Fe ddylai Tata gytuno ar "broses gyfrifol" wrth werthu ei safleoedd dur yn y DU, meddai'r Ysgrifennydd Busnes, Sajid Javid sydd wedi hedfan i India er mwyn trafod gyda phenaethiaid y cwmni dur.

Mae Mr Javid wedi cwrdd â chadeirydd Tata, Cyrus Mistry, am y tro cyntaf ers i'r cwmni gyhoeddi ei fwriad i werthu yr wythnos diwethaf.

Daw hyn ar ôl i undeb Community alw ar Tata i roi mwy o fanylion am amserlen y broses a sicrhau nad oedd yn cael ei wneud yn rhy gyflym. Mae Mr Javid wedi dweud ei fod am sicrhau ateb "hirdymor".

Mewn datganiad dywedodd fod Llywodraeth San Steffan yn defnyddio pob adnodd posib "er mwyn sicrhau dyfodol hirdymor i'r diwydiant dur yn y DU.

Mae pryder am 6,000 o swyddi dur yng Nghymru - 4,000 ym Mhort Talbot - ar ôl i Tata gyhoeddi ei fod eisiau gwerthu ei safleoedd yn y DU.

Mae Mr Javid, oedd ar drip busnes i Awstralia pan wnaed y cyhoeddiad gwreiddiol, wedi bod dan bwysau am y modd mae'r llywodraeth wedi ymdrin â'r argyfwng yn y diwydiant.

Cyn hedfan i India bu Mr Javid AS hefyd yn trafod gyda Liberty House, cwmni sydd wedi ei gysylltu â safleoedd Tata.

"Mae'n dda bod Liberty ac eraill yn barod wedi dangos diddordeb ac mae'n dda bod yna ddiddordeb yn bodoli. Y peth cywir yw bod Llywodraeth Prydain yn chwarae ei rôl."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Sajid Javid

Ynni Lagŵn

Yn y cyfamser, mae pennaeth cwmni Liberty Group wedi dweud y gallai'r ynni fyddai'n cael ei gynhyrchu gan gynllun lagŵn arfaethedig gwerth £1 biliwn ym Mae Abertawe fod o gymorth i'r busnes.

Mae Sanjeev Gupta, pennaeth Liberty Group, wedi cyfarfod gyda Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones a'r gweinidog busnes Sajid Javid i drafod y cyfle o brynu safle Tata.

Mae Mr Gupta hefyd yn fuddsoddwr yn y cynllun yn Abertawe, sydd yn wynebu oedi cyn penderfyniad terfynol gan Lywodraeth San Steffan ar ddiwedd adolygiad o ynni adnewyddol.

Dywedodd wrth BBC Radio Wales ddydd Mercher y gallai defnyddio ynni o'r lagŵn fod yn "un o'r atebion" fyddai'n gwneud Port Talbot yn gystadleuol.

"Ein prif gais gan y llywodraeth yn y tymor byr, canolig a hir yw ynni, ynni, ynni," meddai.

"Rydym angen atebion sydd yn rhoi ynni cystadleuol i ni o ran dur. Un o'r atebion hynny yw'r lagŵn llanw."

Ym mis Chwefror, dywedodd David Cameron fod ei frwdfrydedd tuag at y cynllun lagŵn wedi oeri o achos y gost.

Dywedodd Mr Gupta mai ateb arall fyddai trosglwyddo safle'r cwmni yng Nghasnewydd i ynni adnewyddol, a byddai hyn yn galluogi'r safle i bweru un o ffwrneisi'r gwaith ym Mhort Talbot.

Y trydydd ateb fyddai cael gwared ar y dreth ar garbon.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Sanjeev Gupta, pennaeth Liberty Group

Ddydd Mawrth bu prif weinidog Cymru Carwyn Jones yn trafod yr argyfwng dur mewn cyfarfod yn Downing Street.

Dywedodd Mr Jones ei bod yn "galonogol" clywed bod sawl opsiwn yn parhau i gael eu hystyried (gan Lywodraeth Prydain) i achub y diwydiant.

Mae Mr Jones wedi dweud y byddai'n cefnogi'r syniad bod Llywodraeth y DU yn prynu'r safleoedd nes bod prynwr arall yn dod i'r amlwg.