Archesgob Cymru'n ymddiheuro i bobl hoyw
- Cyhoeddwyd

Mae esgobion Anglicanaidd wedi penderfynu peidio â newid rheolau fyddai'n caniatáu i gwplau o'r un rhyw briodi yn yr Eglwys.
Dywedodd Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan wrth gorff llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru bod pryder y gall penderfyniad o'r fath greu rhwyg yn yr eglwys.
Mae'r Archesgob hefyd wedi ymddiheuro yn ddiamod i bobl hoyw am y sefyllfa.
Mae corff rheoli'r Eglwys yng Nghymru yn cynnal eu cyfarfod blynyddol yn Llandudno.
Y llynedd, fe wnaeth ymgynghoriad anffurfiol ddangos fod mwyafrif bach o esgobion, clerigwyr ac aelodau lleyg o blaid y newid.
Ond roedd y mwyafrif ymhell o fod yn ddigon i gyrraedd y trothwy o ddwy ran o dair o fwyafrif fyddai angen.
Ymddiheuriad diamod
Mae Esgobion Cymru nawr wedi anfon llythyr bugeiliol i'r holl glerigwyr yn egluro eu safiad presennol.
Mae'r llythyr yn cynnwys ymddiheuriad diamod i bobol hoyw am y modd mae'r eglwys wedi eu trin ac yn addo "lle diogel" iddynt o fewn yr Eglwys yng Nghymru.
Mae hefyd yn cynnwys gweddïau y gall clerigwyr eu hadrodd gyda chwplau o'r un rhyw, ond dyw'r gweddïau hyn ddim yn gyfystyr a bendith lawn ar gyfer priodasau a phartneriaethau sifil.