Leanne Wood: Trafod arbedion iechyd
- Published
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi dweud y byddai yn barod i dderbyn arbedion effeithlonrwydd o 10% yn y gwasanaeth iechyd pe byddai ei phlaid mewn grym ym mae Caerdydd.
Yn ystod lansiad maniffesto'r blaid ddydd Mawrth dywedodd y blaid y byddai'n gwneud arbedion blynyddol o £300m, neu tua 4% yn y gyllideb iechyd.
Byddai'r arian yn cael ei ail-fuddsoddi yng ngyllideb cyffredinol y gwasanaeth iechyd, fyddai yn ôl Plaid Cymru, yn £925m yn uwch erbyn 2020-21 o gymharu ag eleni.
Mae Plaid Cymru'n dweud y bydden nhw'n sefydlu comisiwn arbenigol er mwyn darganfod manylion yr arbedion yn y gwasanaeth iechyd os y byddai'r blaid yn ennill grym.
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Wales Today nos Fercher, dywedodd Leanne Wood y byddai'n fodlon gwneud arbedion pellach.
Dywedodd: "Rwyf fi am wneud cymaint o arbedion o ran effeithlonrwydd ag y gallwn ni yn y gwasanaeth iechyd.
"Os yw pobl yn y comisiwn hwnnw'n darganfod 10% o arbedion effeithlonrwydd yn y gwasanaeth iechyd i'w roi'n ôl i wasanaethau rheng flaen ar gyfer staff, doctoriaid, a nyrsys, yna fe fyddwn yn derbyn hynny, ond beth am weld yr hyn fydd yn cael ei awgrymu'n gyntaf."
Arbedion effeithlonrwydd
Mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru'n gwneud arbedion effeithlonrwydd o 3% ar hyn o bryd, wrth arbed ar gyflogau a chost meddyginiaethau.
Mae Plaid Cymru yn bwriadu cyflwyno toriadau effeithlonrwydd gwerth £300m, sydd yn cydfynd ag argymhellion adolygiad gafodd ei gwblhau yn Lloegr, erbyn diwedd cyfnod y Cynulliad nesaf.
Mae'r argymhellion sy'n cael eu cynnig gan y blaid yn 4% o'r gyllideb, ac mae'n ychwanegol i £300m o arbedion mewn rhannau eraill o'r gwasanaeth cyhoeddus ag arbedion o £150m y flwyddyn mewn trefniadau eraill yn y sector cyhoeddus fel cyflogau a gwasanaeth technoleg gwybodaeth.
Mae Plaid Cymru'n dweud mai'r bwriad fyddai ail-fuddsoddi'r arbedion mewn gwasanaethau rheng flaen.
Dywedodd Leanne Wood: "Dydyn ni ddim yn dweud y bydde ni'n gweithredu'r holl awgrymiadau y byddai'r arweinwyr busnes yn ei darganfod.
"Byddai trafodaethau gwleidyddol yn cael eu cynnal ac fe fyddwn yn sicrhau na fyddai toriadau'n cael effaith ar y bobl sydd yn dioddef waethaf mewn cymdeithas pan fydde nhw'n cael eu gwneud. Ond fe fydde nhw'n tynhau'r drefn ac yn gwneud arbedion effeithlonrwydd ac yn gwneud pethau'n fwy tynn."