S4C yn lansio cyfres fisol 'PUMP' arlein
- Cyhoeddwyd

Bydd S4C yn lansio cyfres fisol arlein o'r enw PUMP o ddydd Iau ymlaen.
Yn ôl y sianel bydd casgliad o eitemau byr yn y Gymraeg yn cael eu rhyddhau ar sianel YouTube PUMP, ac yn cael eu rhannu ar draws gwefannau rhwydweithio cymdeithasol.
Bydd y gyfres yn cynnwys eitemau comedi, cyfresi teithio, adolygiadau teledu a ffilm, ac fe fydd rhywbeth i bawb ar y sianel yn ôl S4C.
Cafodd y sianel newydd ei sefydlu i gynnig cynnwys Cymraeg ar YouTube a gan fod y rhaglenni yn bum munud o hyd, teitl naturiol oedd PUMP meddai llefarydd.
Ymhlith y rhai fydd yn cyfrannu i'r gyfres fydd y newyddiadurwraig gyda phapur newydd y Guardian Elena Cresci, y diddanwr Huw Bryant o Landysul, a'r cynhyrchydd Cai Morgan.
Mi fydd 5 o banelwyr hefyd yn cwrdd yn fisol i drafod pynciau llosg.
Mae'r gyfres wedi ei hanelu at bobl rhwng 16-35 oed, i'r rhai sydd ddim yn gwylio teledu yn gyffredinol ag yn fwy tebygol o wylio arlein.
Ychwanegodd y llefarydd: "Ein bwriad yw ymgysylltu efo cynulleidfa iau yn y Gymraeg, sydd ddim yn ymwneud â chynnwys ar lwyfannau draddodiadol h.y. Linear TV [teledu unionlin].
"Mae'r gyfres hon ar gyfer YouTube yn benodol ond yn amlwg bydd yn cael sylw ar wefannau cymdeithasol fel nifer o raglenni eraill S4C."
Bwriad S4C yw darlledu'r gyfres am dri mis i gychwyn, ac fe fydd yn cynnwys deunydd byr sy'n rhaglenni ffurf fer.