Tad yn cyfaddef dynladdiad ei fab dau fis oed
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o ogledd Cymru wedi pledio'n euog i ddynladdiad ei fab dau fis oed ym mis Hydref 2014.
Roedd Sean Michael Mullender, 23 o Gei Connah yn Sir y Fflint, wedi ei gyhuddo o lofruddio ei fab Daniel, ac roedd disgwyl i'w achos ddechrau ddydd Iau.
Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, fe wnaeth Mullender wadu llofruddio ond cyfaddef dynladdiad ar ddechrau'r gwrandawiad.
Cafodd ei fab ei gludo i'r ysbyty yng Nghaer ar 2 Hydref 2014, ond bu farw deuddydd yn ddiweddarach ar ol cael ei symud i Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl.
Clywodd y llys bod meddyg yn credu bod symudiad sydyn wedi achosi gwaedu ar ymennydd y plentyn.
Fe wnaeth yr erlyniad dderbyn y ple ar y sail bod y plentyn wedi ei ysgwyd ar 2 Hydref, ond nad oedd Mullender wedi bwriadu lladd nac achosi niwed corfforol difrifol iddo.
Dywedodd Mr Leyton Hughes ar ran yr erlyniad bod yr achos wedi cael ei ystyried ar y lefel uchaf gan Wasanaeth Erlyn y Goron, y swyddogion oedd yn rhan o'r achos a gweddill teulu'r plentyn - oedd yn croesawu'r ple.
Clywodd y llys gan Patrick Harrington QC ar ran yr amddiffyniad, a dywedodd y byddai am i'r llys weld "e-byst dirdynnol" rhwng Mullender a'i bartner cyn iddo gael ei ddedfrydu.
Dywedodd bod y ddau wedi priodi ers marwolaeth y plentyn.
Bydd Mullender yn cael ei ddedfrydu'n ddiweddarach.