Sajid Javid: 'Bydd Tata yn werthwr cyfrifol'

  • Cyhoeddwyd
Sajid JavidFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,
Bu Sajid Javid yn cwrdd â chadeirydd Tata, Cyrus Mistry ym Mumbai ddydd Mercher

Mae arweinwyr undebau wedi dweud bod Ysgrifennydd Busnes y DU, Sajid Javid wedi dweud wrthyn nhw mewn cyfarfod ym Mhort Talbot y bydd cwmni Tata yn "werthwr cyfrifol".

Fe wnaeth Undeb Community ddisgrifio'r trafodaethau fel rhai "cadarnhaol".

Bu Mr Javid yn cwrdd â chadeirydd Tata, Cyrus Mistry ym Mumbai ddydd Mercher.

Bydd safleoedd y cwmni yn y DU yn cael eu rhoi ar werth yn ffurfiol ddydd Llun.

Yn y cyfamser, bu Liberty Group, sy'n cael eu hystyried y prynwr mwyaf tebygol, yn cwrdd â Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ddydd Iau.

Dywedodd llefarydd o Llywodraeth Cymru mai i "drafod ffyrdd y gallai'r llywodraeth gefnogi unrhyw brynwr o weithfeydd Tata yng Nghymru" oedd y cyfarfod.

'Gwell cau'n syth'

Yn gynharach, fe wnaeth arbenigwr busnes rybuddio y gallai fod yn well i gau gwaith dur Tata ym Mhort Talbot yn hytrach na wynebu "marwolaeth drwy doriadau" am ddegawd.

Dywedodd yr Athro Calvin Jones o Ysgol Fusnes Caerdydd bod gweinidogion y DU wedi "cynllwynio ym methiant" dur yn yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd yr Athro Jones bod gweinidogion wedi rhoi blaenoriaeth i hybu twf ar sail nwyddau rhad, yn hytrach na diwydiannau trwm fel dur.

Ysgrifennodd yr Athro Jones adroddiad ar Tata yn 2012.

'Angen buddsoddiad a strategaeth'

Mewn erthygl i wefan newyddion y BBC, rhybuddiodd na fyddai honiadau gwleidyddion bod cau Port Talbot yn "amhosib ei ddychmygu" yn atal hynny rhag digwydd heb "fuddsoddiad ymarferol a strategaeth ariannol".

Ychwanegodd nad oedd "unrhyw beth o werth wedi dod o Fae Caerdydd na San Steffan" hyd yn hyn.

"Mae Llywodraeth y DU (a rhai yn Ewrop), drwy wrthod rhoi tollau uwch ar ddur o China, wedi cynllwynio ym methiant dur yr UE er mwyn sicrhau bod cynnyrch i gwsmeriaid yn parhau'n fforddiadwy, oherwydd rhain sy'n hybu model twf sydd wedi torri yn ei hanfod," meddai.

Disgrifiad o’r llun,
Mae Sanjeev Gupta wedi dangos diddordeb yn safle Tata ym Mhort Talbot

Ychwanegodd yr Athro Jones bod gan bennaeth Liberty Group, Sanjeev Gupta, ddiddordeb mewn prynu'r safle os yw'n cael cymorth y llywodraeth i dalu am wella ansawdd y tir ar y safle a phris ynni is.

Dywedodd y gallai penaethiaid Tata droi eu cefnau ar Bort Talbot yn syth, ac y gallai'r llywodraeth "gymryd cyfrifoldeb am gostau'r safle er mwyn ceisio sicrhau swyddi ym Mhort Talbot, ond am ba hyd?".

Dywedodd: "Heb unrhyw bleser o gwbl 'dwi'n awgrymu os yw Port Talbot am gau - a bydd hynny'n digwydd - y gallai fod yn well gwneud hynny nawr er mwyn gwasgu pob rupee sy'n bosib o'r perchennog cefnog.

"Y dewis arall yw marwolaeth drwy doriadau dros ddegawd neu fwy, a'r sector gyhoeddus yn gorfod glanhau'r llanast yn y pen draw, ac yn y cyfamser fydd neb yn gallu datblygu cynllun cynaliadwy a phositif i Bort Talbot."