Trac rasio: Cyflwyno opsiynau ariannol newydd

  • Cyhoeddwyd
TracFfynhonnell y llun, CoW

Mae'r cwmni sydd y tu ôl i gynlluniau ar gyfer trac rasio gwerth £357m yng Nglyn Ebwy wedi cynnig dau opsiwn newydd ar gyfer ariannu'r cynllun, yn dilyn amheuon am ddyfodol y cynllun.

Dywedodd Heads of The Valleys Development Company eu bod yn datblygu trefniadau ariannol gyda buddsoddwyr a chynghorau fyddai'n cynrychioli "pecyn ariannu gyda mwy o falans i fuddsoddwyr cyhoeddus a phreifat".

Ddydd Iau, dywedodd y Gweinidog Busnes, Edwina Hart, nad oedd modd gwarantu'r cynllun oherwydd bod "cwestiynau sylweddol yn bodoli am ddichonoldeb y cynllun".

Wedi'r cyhoeddiad, dywedodd Michael Carrick o'r Heads of The Valleys Development Company bod y cwmni yn gobeithio cadarnhau'r cytundeb o fewn wyth wythnos.

Methu gwarantu'r cynllun

Ddydd Iau, daeth i'r amlwg nad oedd Llywodraeth Cymru yn fodlon gwarantu'r cynllun yn ariannol.

Yn ei llythyr at Carwyn Jones, dywedodd Ms Hart: "Fel y byddwch yn ymwybodol, rydym wedi bod yn gweithio i gefnogi'r cynllun hwn am amser sylweddol ac rydym yn barod wedi gwario tua £9m i gefnogi ei ddatblygiad.

"Fe wnaethon ni hefyd edrych ar rannu'r risg gyda nifer o awdurdodau lleol, ac fel y gwyddoch fe wnaeth yr opsiwn yma fethu hefyd yn anffodus.

"Yn ystod y dyddiau diwethaf rydym wedi ystyried bod gwarantu 80% o werth llawn y cynllun wedi gallu gostwng ein risg posib i lefel dderbyniol. Ond nid yw cwmni Circuit of Wales wedi llwyddo i sicrhau cyfalaf risg preifat ac felly nid yw hyn wedi bod yn bosib."

'Ymrwymo i ailddatblygu'

Mewn datganiad, dywedodd Prif Weithredwr Heads of The Valleys Development Company, Mr Carrick, ei fod "wedi ymrwymo i ailddatblygu Blaenau Gwent drwy adeiladu canolfan moduro a hamdden blaenllaw yn ne Cymru".

Ychwanegodd: "Mae'r cynigion yma yn adlewyrchu pecyn ariannu gyda mwy o falans i fuddsoddwyr cyhoeddus a phreifat.

"Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda phob grŵp, gan gynnwys y gymuned leol a chynghorau i geisio cadarnhau'r cytundeb dros y chwech i wyth wythnos nesaf."