Pryder am arian cyhoeddus i fenyw fusnes
- Cyhoeddwyd

Mae pryderon wedi codi am gefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru i ddynes fusnes sy'n cael ei herlid gan gyn-weithwyr a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi am gyflogau a threthi sydd heb eu talu.
Mae Judie Thomas, sy'n rhedeg cwmni gwneud dillad Project Wd Ltd yn Abertawe, wedi bod yn gyfarwyddwr pump o gwmnïau eraill yn y gorffennol.
Aeth dau o'r pump yn fethdalwyr ac fe gafodd enwau dau eu tynnu oddi ar gofrestr Tŷ'r Cwmnïau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ymchwilio i sut y cafodd menter fusnes diweddaraf Ms Thomas gymorth grant ariannol.
Rhaglen ddogfen
Roedd Ms Thomas, sydd wedi bod yn fethdalwr yn y gorffennol, yn destun rhaglen Week In Week Out BBC Cymru yng Ngorffennaf 2010 wnaeth ddangos rhes o ddyled a thorri addewidion yn dilyn digwyddiad y gwnaeth hi drefnu oedd yn rhoi llwyfan i ddylunwyr o Gymru yn ystod Wythnos Ffasiwn Llundain.
Dywedodd nifer o gyflenwyr i'r digwyddiad wrth y rhaglen bod arni ddegau o filoedd o bunnoedd gan Ms Thomas am nwyddau a gwasanaethau, tra bod dau ddylunydd ifanc wedi dweud eu bod wedi colli arian yn y digwyddiad.
Rhoddwyd sylw yn y rhaglen i honiadau gan Ms Thomas ei bod yn derbyn cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru.
Ond mewn datganiad gafodd ei gyhoeddi ar y pryd fe wnaeth Llywodraeth Cymru wadu eu bod erioed wedi cefnogi Ms Thomas yn ariannol.
Mae ymchwiliad gan BBC Cymru wedi dangos bod Project Wd, gafodd ei lansio dair blynedd ar ôl y rhaglen, wedi derbyn £9,000 o gyllid trwy raglen ReAct Llywodraeth Cymru yn 2014-15.
Nod cynllun ReAct yw cael pobl sydd wedi cael eu gwneud yn ddi-waith yn ôl i mewn i swydd.
Camau cyfreithiol
Mae rhai o'r bobl gafodd eu cyflogi gan Ms Thomas o dan y cynllun nawr wedi cymryd camau cyfreithiol drwy'r llys sirol am nad ydyn nhw wedi cael eu talu.
Mae'r cwmni hefyd wedi recriwtio prentisiaid trwy gynllun sgiliau Llywodraeth Cymru i bobl rhwng 16-24 oed, Twf Swyddi Cymru.
Dan y cynllun mae Llywodraeth Cymru yn ad-dalu cyflogau i'r cwmnïau, ac mae'r cynllun yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Mae BBC Cymru wedi canfod bod gan Ms Thomas nifer o ddyfarniadau llysoedd sirol yn erbyn ei chyn-gwmnïau, ac mae chwe dyfarniad llys sirol yn erbyn Project Wd Ltd - cyfanswm o £11,500.
Mae'r cynharaf o'r rheiny yn dyddio nôl i Ebrill 2014, ac felly nid oedd mewn grym pan gafodd cymorth ariannol Llywodraeth Cymru ei roi.
Ond mae cwestiynau'n cael eu codi - gafodd digon o brofion eu gwneud gan Lywodraeth Cymru o ystyried y materion amheus yng nghefndir busnes Ms Thomas.
Mae BBC Cymru ar ddeall bod Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn mynd ar ôl dyled o rhwng £65,000-£95,000.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gadarnhau bod Project Wd wedi derbyn cyllid ReAct yn 2014-15, ond nad oes unrhyw arian wedi cael ei dalu i'r cwmni mewn perthynas â thair swydd wahanol gyda Twf Swyddi Cymru a hysbysebwyd ers dechrau 2015.
Dywedodd llefarydd bod cwmnïau sy'n gwneud cais am gymorth drwy'r ddau gynllun yn destun profion ariannol "am o leiaf y 12 mis blaenorol".
Ychwanegodd: "Rydym yn y broses o ymchwilio i'r achos yma, ac ni fyddai'n briodol i wneud sylw pellach tra bod yr ymchwiliad yn mynd rhagddo.
"Mae'n bwysig nodi bod y ddwy raglen yn gofyn am dystiolaeth bod cyflogau wedi cael eu talu cyn i unrhyw gyllid gael ei rhyddhau i'w cwmni."
Yn ôl llefarydd ar ran CThEM doedden nhw ddim yn gwadu na chadarnhau bod ymchwiliadau'n digwydd.
Mae BBC Cymru wedi ceisio cysylltu gyda Ms Thomas am y materion yma ar sawl achlysur, ond mae hi'n gyson wedi methu ateb unrhyw gwestiynau.
Pan aeth gohebydd ati fe ddywedodd: "Dydw i ddim yn fodlon trafod hyn... fedra i ddim."