Pryder am fwydo plant yn ystod gwyliau ysgol

  • Cyhoeddwyd
Caia
Disgrifiad o’r llun,
Un o'r gwirfoddolwyr yn Wrecsam yn paratoi bwyd i'r plant

Mae galwadau i wella'r ddarpariaeth bwyd sydd ar gael i'r plant mwyaf bregus yn ystod y gwyliau ysgol.

Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi dweud wrth raglen Post Cyntaf Radio Cymru eu bod yn pryderu nad oes darpariaeth i blant difreintiedig yn ystod y gwyliau - plant sydd fel arfer yn derbyn cinio am ddim yn ystod y tymor.

Maen nhw wedi sefydlu canolfannau sy'n dosbarthu pecynnau bwyd i blant mewn ardaloedd difreintiedig yn Wrecsam a'r Rhyl mewn ymateb i'r hyn y maen nhw'n ei ddisgrifio fel gwasanaeth "ysbeidiol ar y gorau, ond fel arfer yn gwbl absennol".

'Ysgafnhau'r pwysau'

Dywedodd Archesgob Cymru, y Parchedicaf Ddoctor Barry Morgan: "Mae ein heglwysi yng nghanol bob cymuned yng Nghymru ac yn sylweddol, yn ystod gwyliau ysgol, bod yna blant sydd ddim yn cael digon i'w fwyta.

"Dyma blant sydd fel arfer yn cael prydau am ddim yn ystod y tymor.

"Gan fod yr Eglwys yn rhedeg clybiau gwyliau a chlybiau plant, ry'n ni'n sydyn wedi gweld bod plant yn mynd heb fwyd. Mae'r Eglwys yn hapus i ddarparu brechdanau iddyn nhw ac mae hynny'n ysgafnhau'r pwysau ariannol ar y rhieni.

"Mae banciau bwyd yn aml yn cael eu rhedeg gan gynghorau lleol a'r Eglwys - mae hyn yn estyniad o'r syniad yna mewn ffordd."

Disgrifiad o’r llun,
Mae'r Eglwys yn rhedeg cynlluniau tebyg yn Wrecsam a'r Rhyl

Ar hyn bryd does yna ddim darpariaeth ar gael i blant sy'n cael cinio ysgol am ddim yn ystod y gwyliau - rhywbeth y mae'r Eglwys yng Nghymru am weld yn newid.

Maen nhw'n pryderu fod y sefyllfa bresennol yn rhy amrywiol ar draws Cymru ac yn ddibynnol yn llwyr ar wirfoddolwyr.

Ymateb y pleidiau

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu bod yn bwriadu llacio rheolau Cymunedau'n Gyntaf a datganoli cyfrifoldeb i gynghorau fel y gallan nhw ddefnyddio arian ar gyfer cynlluniau fel hyn.

Mae'r mater yn rhan o 'Gynllun Gweithredu ar Dlodi Plant' Plaid Cymru, ac maen nhw hefyd yn dweud bod angen cydweithredu gydag awdurdodau lleol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru y byddan nhw'n lansio'u maniffesto o fewn yr wythnosau nesaf, ac y bydd cefnogaeth i bobl ifanc o gymunedau difreintiedig "yng nghanol yr hyn y byddwn yn cynnig".

Roedd UKIP yn llongyfarch yr Eglwys yng Nghymru gan ddweud bod hynny'n esiampl o'r math o weithredu gwirfoddol elusennol y byddan nhw'n annog mewn llefydd eraill. Roedden nhw hefyd am gefnogi cynghorau i gynnig cymorth.

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Trwy weithio gyda chymunedau lleol, i gynllunio rhaglen adfywio sydd yn canolbwyntio ar gyrff lleol, i daclo tlodi, gallwn ddarparu rhwydweithiau cynnal newydd ar draws Cymru."