Etholiad Cymru 2016: Yr Iaith Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Yr Iaith Gymraeg
Pleidiau wedi eu rhestru yn nhrefn yr wyddor
Prif addewidion:
- Cynyddu defnydd yr iaith Gymraeg o fewn strwythur Dechrau'n Deg
- Ad-drefnu cynlluniau statudol addysg i gynnwys targedau clir ac i helpu pob plentyn yng Nghymru i fod yn hyderus wrth gyfathrebu yn Gymraeg
- Datblygu rhwydwaith o 'Bencampwyr busnes Cymraeg eu hiaith'
- Cryfhau atebolrwydd Comisiynydd y Gymraeg drwy ei wneud yn benodiad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Prif addewidion:
- Sicrhau bod polisïau Llywodraeth Cymru yn destun asesiad effaith ar yr iaith
- Diwygio'r ffordd y mae'r Gymraeg yn cael ei dysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg
- Sicrhau fod gan bob ysgol gynradd ac uwchradd ddigon o athrawon cymwysedig Cymraeg
- Gwneud asesiad effaith ar iaith yn ofyniad statudol ar gyfer datblygiadau cyn caniatáu cais cynllunio
Prif addewidion:
- Gweithio tuag at 1m o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050
- Creu cronfa defnydd yr iaith
- Parhau i fuddsoddi i annog mwy o bobl i ddefnyddio'r iaith yn eu bywydau bob dydd
- Diwygio mesur yr Iaith Gymraeg i alluogi busnesau ac eraill i fuddsoddi mewn defnydd o'r iaith.
Prif addewidion:
- Gweithredu'r gwelliannau i Gymraeg ail-iaith yn ôl argymhellion arolwg yr Athro Sioned Davies, yn cynnwys continiwm dysgu Cymraeg a thros amser, addysg Gymraeg i bawb
- Ehangu defnydd y Gymraeg yn iaith weinyddu mewn llywodraeth leol a'r sector cyhoeddus
- Gwella addysg cyfnod sylfaen fel bod pob disgybl yn gallu siarad Cymraeg o "safon dderbyniol" erbyn saith oed
- Gwthio i wella statws y Gymraeg ar lefelau Prydeinig ac Ewropeaidd, gan gynnwys dynodi Cymraeg yn iaith swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.
Prif addewidion:
- Mae gan bobl yr hawl i fyw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg o addysg feithrin hyd at y coleg a'r brifysgol, yn ogystal ac yn y gweithle
- Cynyddu cyfleoedd dysgu i blant ac oedolion
- Rhoi mwy o ddyletswydd ar wasanaethau cyhoeddus i roi gwasanaethau dwyieithog.
Prif addewidion:
- Gwella gwasanaethau Cymraeg i drin dementia ac mewn gofal diwedd oes
- Sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus ar gael i bobl drwy gyfrwng y Gymraeg
- Annog mynediad at ddogfennau yn yr iaith y mae rhywun yn ei ddewis, yn hytrach na rhoi gormod o bwyslais ar ddogfennau dwyieithog
- Sicrhau bod ymdrechion i annog dwyieithrwydd rhwng Cymraeg a Saesneg yn arwain at ddysgu ieithoedd eraill, nid yn lle hynny.