Etholiad Cymru 2016: Treth
- Cyhoeddwyd
Treth
Pleidiau wedi eu rhestru yn nhrefn yr wyddor
- Gostwng treth incwm i drethdalwyr Cymru
- Diddymu'r dreth stamp ar eiddo werth hyd at £250,000 i rai sy'n prynu am y tro cyntaf
- Cadw Treth Cyngor ar yr un lefel drwy gydol tymor y Cynulliad
- Diddymu trethi busnes i fusnesau bach sydd werth hyd at £12,000, a chynnig cymorth i rai sydd werth hyd at £15,000.
- Gostwng Treth Cyngor ar gartrefi sy'n effeithlon o ran ynni
- Sicrhau fod trethi busnes yn arwain at fuddsoddiad positif ac yn cefnogi twf economaidd
- Addewid i beidio â chynyddu Treth Incwm
- Cyflwyno treth ar losgi i annog ailgylchu.
- Addewid i beidio â chynyddu treth incwm dros gyfnod y Cynulliad, pan fydd y pwerau'n cael eu datganoli
- Gostwng trethi i fusnesau bach
- Cyflwyno "independent evaluation lock" ar unrhyw amrywiaeth treth drwy bwerau newydd.
- Addewid i beidio â chynyddu treth incwm yn ystod tymor y Cynulliad nesaf
- Torri trethi busnes i gwmnïau bach
- Diwygio'r dreth gyngor bresennol a rhoi yn ei lle dreth eiddo domestig
- Cyflwyno graddfa ganolig newydd i dreth incwm
- Newid y system fudd-daliadau fydd yn y pen draw yn arwain at "incwm dinesydd"
- Defnyddio cymorthdaliadau i annog datblygiad yn y sector gwastraff
- Codi trethi ar gwmniau am gael gwared ar ddeunydd pecynnu sy'n wastraff.
- Gwrthwynebu datganoli pwerau trethu i Gymru oni bai fod mwyafrif o'i blaid mewn refferendwm gyhoeddus
- Cefnogi gostyngiadau i drethi cyngor lle bynnag fo hynny'n bosib
- Dadlau dros gymdeithas sydd â threthi is a symlach.