Y Blaid Werdd 'i gael eu ACau cyntaf' ym mis Mai
- Cyhoeddwyd

Mae Aelod Seneddol y Blaid Werdd, Caroline Lucas yn darogan y bydd gan ei phlaid ei haelodau cyntaf yn y Cynulliad wedi 5 Mai.
Wrth siarad cyn ymweliad dau ddiwrnod â Chaerdydd, dywedodd Ms Lucas: "Yn etholiadau eleni yng Nghymru byddwn ni'n cael lleisiau'r Gwyrddion i'r unig sefydliad gwleidyddol yn y DU sydd heb rai."
Bydd unig AS y blaid yn cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau gan gynnwys lansiad maniffesto'r Blaid Werdd Ifanc Cymru ddydd Gwener.
Ar hyn o bryd, does gan y Gwyrddion ddim cynghorydd sir, Aelodau'r Cynulliad, Aelodau Seneddol nag Aelodau Senedd Ewrop yng Nghymru.
Dywedodd Ms Lucas mai slogan y blaid yw 'Ysgwyd y Senedd'.
"Byddai llais gweithgar Gwyrdd yn y Senedd, sy'n sefyll dros gydraddoldeb, cyfiawnder economaidd a'r amgylchedd yn amhrisiadwy," meddai.